Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Effaith costau ynni cynyddol ar Gyngor Sir y Fflint

Published: 09/06/2023

Yn sgil costau ynni cynyddol, bydd gofyn i Aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai ystyried ffioedd gwresogi arfaethedig ar gyfer eiddo’r Cyngor gyda systemau gwresogi cymunedol yn y cyfarfod ar 14 Mehefin 2023.

 

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithredu wyth cynllun gwresogi cymunedol a dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae preswylwyr sy’n byw mewn canolfannau cymunedol wedi elwa o gostau ynni isel yn seiliedig ar gyfradd contract diwydiannol a masnachol is a sicrhawyd gan y Cyngor.   

 

Mae’r Cyngor wedi adnewyddu ei gontract diwydiannol a masnachol ac mae’r tariff newydd ar gyfer nwy wedi cynyddu yn unol â’r cyfraddau marchnad cenedlaethol.   O ganlyniad, mae’r Cyngor yn wynebu cynnydd sylweddol mewn costau nwy sy’n golygu cynnydd anochel yng nghostau’r preswylwyr yn y canolfannau cymunedol.

 

Meddai Vicky Clark, Prif Swyddog Tai a Chymunedau:

 

“Rydym yn deall yr effaith mae’r costau ynni cynyddol yn ei chael ar bawb yn ein cymuned.   Rydym wedi llwyddo i ddiogelu preswylwyr sy’n byw mewn canolfannau cymunedol rhag codiadau sylweddol yn y pris dros y pum mlynedd diwethaf, ond oherwydd amgylchiadau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth, bydd eu ffioedd yn codi i adlewyrchu’r costau ynni byd-eang cynyddol.   Byddwn yn parhau i weithio gyda phreswylwyr yn ystod y newid hwn a’u cefnogi i gael mynediad at gymorth neu gyllid a allai fod ar gael iddynt.”

 

Wrth drafod y cynnydd mewn costau ynni, meddai’r Cynghorydd Sean Bibby, Aelod Cabinet Tai ac Adfywio:

 

“Mae’r cynnydd sylweddol mewn costau nwy’n golygu y bydd ffioedd gwresogi preswylwyr sy’n byw mewn canolfannau cymunedol yn cynyddu. Mae’r cynnydd hwn yn anffodus ond yn anochel gan fod rhaid i’r Cyngor godi eu ffioedd yn unol â’r cynnydd mewn tariffau.”

 

Yn amodol ar gymeradwyaeth, bydd y ffioedd gwresogi arfaethedig yn dod i rym o 31 Gorffennaf 2023.