Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyswllt Sir y Fflint yn dathlu blwyddyn o lwyddiant

Published: 14/06/2023

Bydd Aelodau’r Cabinet yn ystyried perfformiad blynyddol Sir y Fflint yn Cysylltu, y gwasanaeth sy’n gyfrifol am ddarparu mynediad wyneb yn wyneb a digidol i wasanaethau’r Cyngor, pan fyddant yn cyfarfod ar ddydd Mawrth 20 Mehefin.

 

Mae Sir y Fflint yn Cysylltu yn darparu cefnogaeth wyneb yn Wyneb i drigolion bregus yn Sir y Fflint i gael a gwneud cais am amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys Bathodynnau Glas, Tai Cymdeithasol, Digartrefedd a Budd-daliadau.  Mae canolfannau ym Mwcle, Cei Connah, Fflint, Treffynnon, a’r Wyddgrug yn darparu ymgynghorwyr medrus sy’n canolbwyntio ar gefnogi trigolion.

 

Wrth siarad am y gefnogaeth a ddarperir gan Sir y Fflint yn Cysylltu, dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol:

 

“Rwy’n hynod falch fod yr adroddiad perfformiad blynyddol yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus Sir y Fflint yn Cysylltu i gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus hygyrch, ymatebol o ansawdd uchel.  Mae’r Ymgynghorwyr Cysylltu yn gweithio’n hynod o galed i ddarparu gwasanaeth o’r radd flaenaf, nid yn unig i gefnogi pobl i gael a gwneud cais am wasanaethau, ond hefyd i gefnogi pobl gyda’u sgiliau llythrennedd digidol.

 

Mae Sir y Fflint yn Cysylltu wedi wynebu heriau recriwtio sylweddol dros y 12 mis diwethaf, a hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i drigolion am eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth pan rydym wedi cyfyngu ein hamseroedd agor.

 

Bu i ni wneud y penderfyniad anodd yn gynharach eleni i leihau oriau agor ym Mwcle a’r Wyddgrug fel rhan o’r gwaith mae’r Cyngor wedi ei wneud i reoli setliad ariannol anodd.  Fodd bynnag, wrth i ni symud ymlaen, rwy’n falch o rannu penderfyniad y Cabinet i gynyddu nifer y diwrnodau y bydd Bwcle yn Cysylltu ar agor. 

 

I gydnabod pwysigrwydd y gwasanaeth ac er gwaethaf y setliad ariannol hynod o anodd, bydd Bwcle yn Cysylltu ar agor 3 diwrnod bob wythnos, yr un fath â’r Wyddgrug yn Cysylltu.   Bydd y newid hwn yn cael ei gyflwyno cyn gynted ag y mae ein hymgynghorwyr newydd wedi cael hyfforddiant llawn ac yn hyderus i gyflwyno’r ystod lawn o wasanaethau a gynigir.

 

Cymeraf y cyfle hwn hefyd i hyrwyddo cynhwysiant digidol.  Mewn byd digidol sy’n tyfu mae’n bwysig nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.  Rwy’n annog unrhyw un sydd angen cefnogaeth ddigidol i ymweld ag un o’n Canolfannau croesawgar ble gallant ddefnyddio’r rhyngrwyd a dyfeisiau am ddim a gall unrhyw un sydd angen data gael SIMs data am ddim.”

 

Mae Sir y Fflint yn Cysylltu yn darparu cefnogaeth i drigolion ar incwm isel i sicrhau eu bod yn cael cysylltiadau digidol trwy ddarparu cardiau SIM a thalebau data am ddim iddynt trwy’r Banc Data Cenedlaethol. Mae cefnogaeth ar gael yn unrhyw un o’r pum Canolfan Gysylltu ledled y sir.