Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol

Published: 14/06/2023

Ddydd Mawrth 20 Mehefin bydd cyfle i aelodau’r Cabinet roi adborth ar adroddiad blynyddol y Cyngor ar ei swyddogaethau gofal cymdeithasol, cyflawniadau’r gwasanaethau gofal cymdeithasol ac ar y gwelliannau i’w blaenoriaethau.

 

Mae’n rhaid i Gyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol lunio adroddiad blynyddol yn crynhoi ei farn am swyddogaethau gofal cymdeithasol a blaenoriaethau’r awdurdod lleol ar gyfer gwella, fel sydd wedi'i ddeddfu yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

 

Meddai Neil Ayling, Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol:

 

“Bwriad yr adroddiad yw rhoi darlun gonest i’r cyhoedd, y rheoleiddiwr a budd-ddeiliaid ehangach o wasanaethau yn Sir y Fflint, a dangos dealltwriaeth glir o’r cryfderau a’r heriau a wynebwn.

 

Mae’r adroddiad wedi’i lunio gyda sawl swyddog allweddol ac mae’r holl gyfleoedd i wella ein gwasanaethau yn cyd-fynd â’r cynllun busnes a Chynllun y Cyngor.”

 

Wrth siarad cyn y cyfarfod, dywedodd y Cynghorydd Christine Jones (Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles):

 

“Mae gan y Cyngor lawer o bethau i’w dathlu yn yr adroddiad hwn, yn cynnwys:

 

·         Mwy o ofalwyr maeth ac unigolion cysylltiedig

·         Gorffen gwaith adeiladu eiddo preswyl i blant

·         Tîm Rhyddhau, Asesu ac Adfer newydd i gefnogi trigolion yn yr ysbyty ac wedyn

·         Lansio cerdyn adnabod gofalwyr ifanc

·         Cynllunio gwaith y cartref gofal preswyl newydd yn y Fflint

·         Arwain Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru

·         Lansio prosiect SEARCH i ddarparu lleoliadau gwaith i oedolion 25 oed a hyn sydd ag anableddau dysgu ac awtistiaeth, y prosiect cyntaf o’i fath yn y DU

 

Yn ogystal â’r holl lwyddiannau rydym ni hefyd wedi nodi sawl cyfle i wella canlyniadau’r bobl sy’n byw yn ein cymunedau.

 

Mae’n bwysig i ni ein bod ni’n parhau i ddarparu’r swyddogaethau gofal cymdeithasol gorau posib’, gan gydbwyso effeithlonrwydd ariannol heriol a gwerth am arian. Rwyf yn croesawu canfyddiadau’r adroddiad ac yn cefnogi’r blaenoriaethau gwella a fydd yn cefnogi ein preswylwyr mwyaf diamddiffyn.”

 

Bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi erbyn mis Medi 2023.