Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyfraddau Casglu Treth y Cyngor ar Gyfer Sir y Fflint yn 2022-23

Published: 15/06/2023

Mae ffigurau newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod aelwydydd yn Sir y Fflint yn parhau i flaenoriaethu taliadau Treth y Cyngor er mwyn ariannu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, er gwaetha’r argyfwng costau byw. 

Yn 2022-23, casglodd y Cyngor 97.4 y cant o Dreth y Cyngor – ymhell o flaen y cyfartaledd cenedlaethol o 96.1 y cant, ac mae Sir y Fflint yn parhau i fod ymhlith y Cynghorau sy’n perfformio orau yng Nghymru o ran casglu Treth y Cyngor yn ystod y flwyddyn. Y Cyngor hwn sydd â’r nifer isaf ond un o symiau sydd heb eu talu fesul annedd drethadwy o ran ôl-ddyledion mwy hirdymor. 

Yn ogystal â chynyddu casgliadau, mae’r gwasanaeth Treth y Cyngor yn parhau i drawsnewid y ffordd y mae'n gweithredu drwy ei gwneud yn haws i drigolion dalu eu biliau neu wneud cais am ostyngiadau. Gall aelwydydd yn Sir y Fflint dalu trwy ddebyd uniongyrchol wythnosol – un o ychydig o Gynghorau yng Nghymru sy’n cynnig cynllun talu mor hyblyg.

Wrth sôn am y cyhoeddiad, dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor:

“Mae hwn yn gyflawniad ardderchog, yn enwedig pan fo’r argyfwng costau byw yn cael effaith uniongyrchol ar lawer o aelwydydd yn Sir y Fflint. Hoffwn ddiolch yn bersonol i bobl Sir y Fflint sy’n sicrhau bod taliadau Treth y Cyngor yn cael eu gwneud yn brydlon i helpu i dalu am wasanaethau rheng flaen hanfodol.

Rydym ni’n parhau i gydnabod y gall rhai teuluoedd ei chael hi’n anodd talu, a byddwn i'n annog unrhyw un sy'n cael trafferth talu i gysylltu’n syth bin â Gwasanaeth Treth y Cyngor ar 01352 704848 fel y gallwn ni ddarparu cymorth ac arweiniad ymarferol."