Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Chwifio'r Faner ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog

Published: 26/06/2023

Ymunodd y Cynghorydd David Evans, Cefnogwr y Lluoedd Arfog, â Chadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Gladys Healey, mewn seremoni fer yn Neuadd y Sir, yr Wyddgrug, i godi’r faner er cefnogaeth i wythnos y Lluoedd Arfog.

Cynhelir Diwrnod y Lluoedd Arfog ddydd Sadwrn 24 Mehefin i anrhydeddu dewrder ac ymroddiad personél y lluoedd sy’n gwasanaethu nawr ac sydd wedi gwasanaethu yn y gorffennol.

Meddai Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Gladys Healey:

“Mae Lluoedd Arfog y DU yn amddiffyn y wlad a’i buddiannau. Bob dydd o’r flwyddyn maent yn brysur yn gweithio ym mhob rhan o’r byd yn hyrwyddo heddwch, darparu cymorth, mynd i’r afael â smyglwyr cyffuriau a darparu diogelwch a brwydro yn erbyn terfysgaeth.

Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn  gyfle i ddangos cefnogaeth i’r bobl sy’n aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog: o swyddogion sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd i deuluoedd y Lluoedd, cyn-filwyr a chadetiaid. 

Rydym yn falch o gael chwifio’r faner, sy’n symbol o’n cefnogaeth i’r Lluoedd Arfog, ac mae’n gyfle i ddiolch a chydnabod yr aberth a wnaed – gan aelodau’r Lluoedd Arfog yn y gorffennol, a’r rhai sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd.”

Dyfarnwyd Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn i’r Cyngor ym mis Tachwedd 2019. Mae’r wobr, yr uchaf yn y cynllun, yn cydnabod ymrwymiad a chefnogaeth barhaus y Cyngor ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog, sy’n cynnwys cyn-filwyr, milwyr wrth gefn a’u teuluoedd i sicrhau nad ydynt yn derbyn anfantais annheg yn y gweithle.

Nodyn i Olygyddion:

Mae mwy o wybodaeth ar gael am Ddiwrnod y Lluoedd Arfog, gan gynnwys rhestr lawn o ddigwyddiadau, ar y wefan bwrpasol:  http://www.armedforcesday.org.uk 

Cynhelir Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog yng Nghymru eleni ar ddydd Sadwrn 24 Mehefin 2023 yng Nghasnewydd. I gael mwy o fanylion, ewch i wefan Cyngor Dinas Casnewydd

Armed forces (1 of 3).jpg