Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mike Farron v Cyngor Sir y Fflint 

Published: 23/06/2023

Mae cerddwr oedd yn ceisio erlyn y Cyngor ar ôl cwympo yn y stryd wedi’i daro gyda bil cyfreithiol dros £10,000.

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn adennill ei holl gostau cyfreithiol yr oedd wedi eu hysgwyddo i amddiffyn hawliad anaf personol ar ôl i lys ganfod bod hawliad ceudwll yn ‘anonest.’

Roedd yr Hawlydd wedi erlyn y Cyngor yn nodi ei fod wedi syrthio oherwydd ceudwll yng nghanol y ffordd tra’n croesi’r ffordd wrth ei gyfeiriad cartref ym mis Chwefror 2021.  

Roedd y gwr yn hawlio fod ei ddamwain wedi digwydd am 6 o’r gloch yr hwyr, ond pan gafodd ei archwilio gan arbenigwr meddygol, dywedodd fod ei ddamwain wedi digwydd am 10am.  

Roedd y godwm ei hun yn destun dadleuol gyda disgrifiad gwahanol o ran sut oedd y ddamwain wedi digwydd mewn amrywiol ddogfennau.  

Er gwaethaf hawlio ei fod wedi dioddef poen i’w ffêr, yr oedd yn hawlio oedd mor ddifrifol iddo ddisgrifio ei lefelau poen yn ‘ddeg allan o ddeg’, nid oedd y cerddwr wedi ceisio triniaeth feddygol gan yr ysbyty na’i feddyg lleol.   Roedd wedi ymweld â’i feddyg lleol yn y misoedd yn dilyn y godwm honedig, ond ni soniwyd unwaith am anaf i’r ffêr.  

Roedd yr awdurdod lleol yn cyfaddef diffyg am y ceudwll yn arwyneb y ffordd ond nid oedd yn derbyn bod hyn wedi achosi iddo syrthio a gofynnwyd iddo brofi bod y ddamwain wedi digwydd fel yr honnwyd neu o gwbl.    Cafodd yr hawliad ei wadu ac yna roedd y cerddwr wedi erlyn y Cyngor.   Roedd y Cyngor wedi rhoi cyfarwyddyd i gyfreithwyr amddiffyn yr hawliad, wnaeth gyflwyno manylion tystiolaeth groes i’r llys a gwrthod cynnig iawndal i’r cerddwr.  

Trefnwyd i’r mater gael ei glywed mewn treial ym mis Ionawr 2023, ond tridiau cyn y treial, roedd y cerddwr wedi tynnu ei hawliad yn ôl, heb unrhyw eglurhad.    Roedd y Cyngor wedi wynebu costau amddiffyn hawliad a ystyriwyd wedi’i ffugio felly nid oedd yn fodlon gadael y mater ac apeliodd i’r llys am orchymyn i’r cerddwr ad-dalu costau cyfreithiol y Cyngor.    

Cafodd gwrandawiad ei gynnal ym mis Mehefin 2023 pan gafodd yr holl dystiolaeth ei hystyried gan Farnwr.

Roedd y Barnwr Dosbarth Roberts yn y gwrandawiad wedi canfod bod yr hawliad yn Sylfaenol Anonest a gorchmynnodd i’r cerddwr dalu costau cyfreithiol yr awdurdod lleol.  

Mae’r canlyniad hwn yn dangos i bawb na fydd y Cyngor, ei yswirwyr na chynrychiolwyr cyfreithiol yn goddef unrhyw ymdrech i hawlio arian cyhoeddus yn anonest.