Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Jambori Sir y Fflint!

Published: 29/06/2023

Jamboree.jpgCynhaliodd Tîm Ymgynghorol y Gymraeg Sir y Fflint eu sioe gerdd Jambori tri diwrnod ar gyfer plant Blwyddyn 2. Roedd hwn yn ddigwyddiad cyffrous iawn i ysgolion eleni, gan mai hwn oedd y Jambori cyntaf ers 4 blynedd. Bu i thua 1,450 o blant Sir y Fflint fynychu’r perfformiadau dros y 3 diwrnod. Cafodd Martyn Geraint, y diddanwr a chyflwynydd S4C ei gomisiynu i lwyfannu chwe pherfformiad.  

Mae Martyn Geraint wedi meithrin enw da fel un o ddiddanwyr mwyaf blaenllaw Cymru a byddwch wedi gweld ei allu naturiol i ysbrydoli plant.   Ynghyd â bod yn brofiad llawn hwyl a chymdeithasol, mae Jambori yn cynorthwyo i wella sgiliau dwyieithrwydd y plant ac yn darparu dimensiwn ychwanegol i wersi Cymraeg drwy gynnig profiad dysgu cadarnhaol gan ddefnyddio cerddoriaeth.

Cynhaliwyd y Jambori yn Neuadd Ddinesig Cei Connah, ac fe hoffai’r tîm ddiolch i Gyngor y Dref am eu cefnogaeth barhaus.

Mae plant Blwyddyn 2 o 50 o ysgolion cynradd ar draws Sir y Fflint wedi bod yn brysur yn dysgu caneuon i’w galluogi i ganu yn Gymraeg gyda Martyn Geraint.