Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn amlygu ei ymroddiad i gefnogi trigolion drwy’r argyfwng costau byw

Published: 06/07/2023

Bydd aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai’n trafod adroddiad ynglyn â’r effaith y mae diwygio lles a’r argyfwng costau byw yn dal yn ei chael ar bobl sy’n byw yn Sir y Fflint, yn ei gyfarfod ar 12 Gorffennaf 2003.

Mae’r Cyngor yn cydnabod yr anawsterau y mae pobl yn eu hwynebu wrth i’r cyfyngiadau ar Fudd-daliadau Tai a Chredyd Cynhwysol amharu ar eu sefyllfaoedd ariannol, gan greu cynnydd yn y galw am gymorth.  Mae agweddau ar ddiwygio’r gyfundrefn les fel y Cymhorthdal Ystafell Sbâr a’r Uchafswm Budd-daliadau wedi cael effaith drom ar aelwydydd ac mae’r argyfwng costau byw’n dwysáu hynny.

Wrth sôn am y gwahanol fathau o gefnogaeth sydd ar gael i helpu pobl, dywedodd y Cynghorydd Sean Bibby, yr Aelod Cabinet Tai ac Adfywio:

“Mae diwygiadau lles a’r argyfwng costau byw yn effeithio ar aelwydydd bregus ledled Sir y Fflint.  

Rwy’n falch bod Sir y Fflint wedi chwarae rhan wrth estyn allan i gymunedau, targedu cefnogaeth at yr aelwydydd hynny sydd fwyaf mewn angen a’u helpu i ymgeisio am fudd-daliadau i geisio hybu incwm yr aelwyd.

Mae’r amrywiaeth o gefnogaeth yn cynnwys:  

• Cynllun Cymorth Costau Byw 

• Taliad Cefnogi Gofalwyr Di-dâl

• Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf

• Cynllun Cymorth Biliau Ynni

• Taliadau Tanwydd Amgen

• Prydau Ysgol Am Ddim i’r holl Ddisgyblion Cynradd a Hawl i Brydau Ysgol Am Ddim 

• Grant Hanfodion Ysgol

• Taliadau Tai Dewisol

Mae Sir y Fflint wedi talu bron i £12.3 mewn amryw grantiau i helpu â’r cynnydd mewn costau byw a biliau ynni, sy’n dangos ein hymrwymiad cadarn i helpu ein holl drigolion.  

Rwy’n annog unrhyw un sydd angen ein help i gysylltu â ni i gael gwybod sut allent geisio cynyddu incwm yr aelwyd.”

Gall trigolion gael help i ymgeisio am fudd-daliadau drwy holi ar-lein, dros y ffôn neu drwy fynd i Ganolfan Sir y Fflint yn Cysylltu.

Mewn adroddiad arall i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai, bydd yr Aelodau’n derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am gasglu rhent tai’r Cyngor yn 2022/23 a’r ffordd y mae’r cynnydd mewn costau byw’n effeithio ar allu rhai deiliad contractau (tenantiaid) i dalu. 

Er ein bod wedi cael y cynnydd mwyaf chwyddiant ers cenhedlaeth gyfan a bod prisiau’n codi’n gynt nag incwm aelwydydd, mae bron i 80% o denantiaid y Cyngor yn talu eu rhent yn brydlon ac mae hynny’n helpu i dalu am gynnal a chadw tai, eu trwsio a’u gwella fel rhan o flaenoriaeth y Cyngor i foderneiddio tai cyngor.