Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn Cyhoeddi Adolygiad Blynyddol o Ffioedd a Thaliadau 

Published: 13/07/2023

 

Bydd gofyn i Aelodau’r Cabinet gymeradwyo atodlen wedi’i diweddaru o ffioedd a thaliadau yn eu cyfarfod ddydd Mawrth 18 Gorffennaf.

Mae adolygiad o ffioedd a thaliadau 2023 wedi’i gwblhau yn unol â Pholisi Cynhyrchu Incwm y Cyngor sy’n nodi'r rhesymeg a'r broses ar gyfer adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau.

Dywedodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Paul Johnson:

“Mae’r Cyngor yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau a chodir tâl am rai ohonynt, sy’n cyfrannu at ein Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

Rydym ni’n adolygu ffioedd a thaliadau bob blwyddyn i sicrhau eu bod yn adennill cost lawn neu’n sicrhau cyfradd gymaradwy â’r farchnad, yn unol â’r egwyddorion sydd ym Mholisi Cynhyrchu Incwm y Cyngor.

Mae ffioedd a thaliadau wedi’u hadolygu yn unol â chwyddiant.”

Mae’r newidiadau arfaethedig yn cynnwys cynnydd 20c mewn taliadau parcio a thaliadau parcio newydd gyda’r nos yn Neuadd y Sir a Theatr Clwyd, yr Wyddgrug.  

Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a’r Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol, y Cynghorydd Dave Hughes: 

“Mae parcio yn Sir y Fflint bob amser wedi rhoi gwerth da iawn am arian am bris cystadleuol yng nghanol ein trefi.  

Rwy’n falch o gynnig “am ddim ar ôl tri” sy’n darparu parcio am ddim ym meysydd parcio canol y dref ar ôl 3pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.  Y bwriad yw annog preswylwyr ac ymwelwyr i dreulio mwy o amser yng nghanol ein trefi ar gyfer siopa a hamdden, a fydd yn ei dro yn cefnogi busnesau lleol.

Bydd defnyddwyr y meysydd parcio yn gallu parhau i ddefnyddio arian parod mewn peiriannau talu ac arddangos neu ddefnyddio’r ap PayByPhone.”

Mae’r adolygiad yn bwriadu cynyddu cost casgliadau gwastraff gardd o £3 hefyd a fydd yn golygu y bydd yn cynyddu o £32 i £35 cyn 1 Mawrth ac o £35 i £38 ar gyfer tanysgrifiadau a wneir ar neu ar ôl 1 Mawrth.  

Nid yw’r Cyngor wedi cynyddu ffioedd casglu gwastraff gardd ers sawl blwyddyn, cynhaliwyd yr adolygiad diwethaf yn 2018/19.  Mae’r cynnydd arfaethedig yn dod â’r ffi yn unol ag awdurdodau lleol cymaradwy ac mae’n adlewyrchu costau chwyddiannol.  Nid yw casgliadau gwastraff gardd yn wasanaeth statudol, ond mae’r Cyngor yn cydnabod bod y gwasanaeth yn hynod o boblogaidd a bod miloedd o breswylwyr ar draws y sir yn ei werthfawrogi.

Bydd y cynnydd arfaethedig o ran taliadau yn sicrhau bod y Cyngor yn parhau i sybsideiddio’r gost o ddarparu’r gwasanaeth gwerthfawr hwn i’r aelwydydd sydd am ei gael.  Bydd y taliadau newydd gyfwerth â chynnydd o 15c fesul casgliad fesul aelwyd.

Yn amodol ar gymeradwyaeth, disgwylir i’r atodlen ffioedd a thaliadau newydd gael ei gweithredu ar 1 Hydref 2023.

Caiff fersiwn i gwsmeriaid o’r atodlen ffioedd a thaliadau ei chyhoeddi ar wefan y Cyngor hefyd.