Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyhoeddi Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2023-24

Published: 12/07/2023

 

Bydd gofyn i’r Aelodau Cabinet gymeradwyo Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2023-24 yn ei gyfarfod ddydd Mawrth 18 Gorffennaf. 

Mae’r Cynllun Gwasanaeth Bwyd yn darparu trosolwg o’r Gwasanaeth Bwyd yn unol â’r Cytundeb Fframwaith ar Reolau Bwyd a Phorthiant Swyddogol gan Awdurdodau Lleol Ebrill 2010. 

Mae Sir y Fflint yn falch o adrodd ar ei chynnydd yn erbyn y Cytundeb Fframwaith sy'n darparu gwasanaeth gorfodi cyfraith bwyd cyson ledled y DU.  

Cyn y cyfarfod, dywedodd yr Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Chris Bithell:

“Mae’r Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd a’r Tîm Iechyd Anifeiliaid wedi cyflawni cymaint yn ystod y 12 mis diwethaf. 

Mae ein targedau ar gyfer y flwyddyn i ddod yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau, sef archwiliadau hylendid, cyflawni prosiect rhanbarthol ar werthu Melysion a Diodydd wedi’u mewnforio o America mewn safleoedd manwerthu bach, ac archwilio pob busnes bwyd anifeiliaid.

Llongyfarchiadau i’r swyddogion sydd wedi cyfrannu at gyflawni targedau allweddol dros y 12 mis diwethaf ac am eu Datblygiad Proffesiynol Parhaus, sy’n ofynnol gan y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd.”