Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Perfformiad Blynyddol

Published: 12/07/2023

Bydd aelodau’r Cabinet yn cael yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol sy’n ystyried y cynnydd sydd wedi’i wneud yn erbyn Blaenoriaethau’r Cyngor a nodir ym Mesurau Adrodd Cyngor Sir y Fflint 2022/2023, pan fyddant yn cwrdd ddydd Mawrth 18 Gorffennaf.

Bwriad yr Adroddiad yw darparu asesiad i’r cyhoedd ac i fudd-ddeiliaid ehangach o berfformiad y Cyngor yn ystod y flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn ofyniad statudol dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Mae gan y Cyngor lawer i’w ddathlu mewn perthynas ag adrodd ar gynnydd yn erbyn Blaenoriaethau’r Cyngor, yn cynnwys: 

• Lefelau casglu Treth y Cyngor ‘yn ystod y flwyddyn’ ar gyfer 2022/23 oedd 97.4%;

• Mae 16 o ganolfannau cymunedol gwarchod a 35 o grwpiau lleol wedi’u cefnogi i ddarparu Croeso Cynnes o fis Tachwedd 2022 i fis Mawrth 2023;

• Mae 280 o bobl o Wcráin wedi’u hadsefydlu yn Sir y Fflint, a dyma lle mae’r gyfradd symud ymlaen uchaf ond un ar draws Cymru gyfan;

• Mae 55 o ysgolion cynradd wedi ymgysylltu â’r hyfforddiant Iaith a Chyfathrebu Cynnar gan gael mynediad at becynnau gwaith am ddim i gefnogi darparu’r ymyrraeth i ddysgwyr;

• Mae 217 o larymau Carelink a 73 o larymau Teleofal wedi’u gosod i gefnogi pobl i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain;

• Mae nifer y meicro-ofalwyr wedi cynyddu, gydag 11 o bobl ychwanegol yn darparu gwasanaethau yn y sir;

• Penodwyd 26 o brentisiaid ar draws 14 o ddisgyblaethau a dechreuasant eu gwaith ym mis Medi 2022;

• Cafodd £330,024 o ddyraniad Taliadau Dewisol Tai a chyllid ychwanegol gan y Llywodraeth ei wario yn cefnogi aelwydydd gyda thaliadau ychwanegol i gynorthwyo â rhent oherwydd effaith costau cynyddol yr argyfwng costau byw.

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Mae Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2022/23 yn dyst o waith caled ac o ymrwymiad ein gweithlu.  

Wrth i wasanaethau symud i fusnes fel arfer ar ôl y pandemig byd-eang, rydym yn parhau i wneud cynnydd da yn erbyn Blaenoriaethau’r Cyngor ac mae gwasanaethau’n parhau i wasanaethu ein cymunedau lleol yn dda. 

Rwy’n falch ein bod wedi perfformio’n dda trwy gydol blwyddyn ariannol heriol a chyfnod o adfer ar ôl pandemig Covid.  

Ar y cyfan roedd ein perfformiad yn erbyn mesurau Cynllun y Cyngor yn gadarnhaol, gyda 62% o'r dangosyddion perfformiad wedi cyrraedd eu targedau neu ragori arnynt ar gyfer y flwyddyn.  Mae’r adroddiad hwn yn asesiad cynhwysfawr o’n perfformiad yn erbyn Blaenoriaethau’r Cyngor."