Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynigion i wella hygyrchedd ar lwybr arfordir Sir y Fflint

Published: 12/07/2023

Yn dilyn adolygiad o fesurau rheoli mynediad sydd mewn lle ar ran o Lwybr Arfordir Cymru rhwng Caer a Queensferry, gofynnir i aelodau Cabinet gefnogi’r argymhellion ar gyfer gwell hygyrchedd pan fyddent yn cwrdd ddydd Mawrth 18 Gorffennaf.

Mae nifer o argymhellion wedi cael eu rhoi ymlaen i wella hygyrchedd ar 14 o bwyntiau mynediad ar hyd llwybr yr arfordir.  

Dywedodd Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi, y Cynghorydd David Healey:

“Mae gennym rwystrau rheoli mynediad effeithiol mewn lle i ddiogelu defnyddwyr llwybr yr arfordir yn erbyn y peryglon a achosir gan fynediad anghyfreithlon gan gerbydau.  Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod y rhwystrau rheoli hyn yn cyflwyno problemau mynediad i rai defnyddwyr sgwteri symudedd a beiciau anghonfensiynol.

Rydym wedi gwrando ar bryderon a godwyd gan bobl sy’n dibynnu ar gymorthyddion symudedd, gan gynnwys y rhai sy’n defnyddio cymorthyddion sy’n fwy na’r dosbarthiadau safonol o sgwteri symudedd.  Rydym angen cydbwyso’r argymhellion yn ofalus yn erbyn effaith addasiadau o’r fath ar hygyrchedd cerbydau anghyfreithlon.

Mae gwella mynediad ar gyfer holl ddefnyddwyr dilys llwybr yr arfordir yn golygu bod angen lledu’r agoriadau presennol yn y pwyntiau mynediad, a fydd yn ei dro yn lleihau effeithiolrwydd y mesurau rheoli mynediad i atal mynediad anghyfreithlon.   Felly, ni fydd yn bosibl gwella mynediad ar gyfer holl ddefnyddwyr dilys yn gyfan gwbl wrth gadw’r un lefel o reolaeth mynediad er mwyn atal y defnydd o gerbydau megis ceir a beiciau modur.”

Gofynnir i aelodau cabinet ystyried y ddau argymhelliad gan gynnwys uwchraddio’r A-Fframiau presennol i ddarparu gwell hygyrchedd ar gyfer defnyddwyr dilys sydd ag allwedd radar ac amnewid rhwystr presennol gyda giatiau gwasgarog.