Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Digwyddiad Swyddi, Sgiliau a Gyrfaoedd yng Nghanol Tref Treffynnon

Published: 17/07/2023

 

Ydych chi’n chwilio am waith? Oes arnoch chi angen cyngor ynglyn â sgiliau a hyfforddiant?

Dewch draw i ddigwyddiad Swyddi, Sgiliau a Hyfforddiant Sir y Fflint yng nghanol tref Treffynnon i wella eich siawns o gael gwaith. 

Bydd Cymunedau am Waith a Mwy Sir y Fflint, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru yn dod â chyflogwyr lleol a darparwyr gwasanaeth ynghyd yng nghanol tref Treffynnon ddydd Iau, 27 Gorffennaf rhwng 10am a 2pm.  

Mae’r cyflogwyr lleol a fydd yn bresennol yn cynnwys: - Kingspan, Hamdden Aura, McDonalds, 2sisters, Gofal Cymdeithasol -Cyngor Sir y Fflint, Coleg Cambria, Great Bear a llawer mwy.

Dywedodd Janiene Davies, Swyddog Cyswllt Cyflogaeth gyda Chymunedau am Waith a Mwy:

“Yn dilyn digwyddiad llwyddiannus iawn y llynedd rydym yn edrych ymlaen at weld llawer iawn o unigolion sy’n chwilio am waith ar y diwrnod.”

Gall bobl gael gwybodaeth, cyngor a chymorth ymarferol a bydd cyfle i bobl ddiweddaru eu CV wrth bwynt gwirio CV. 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Chymunedau am Waith a Mwy janiene.davies@flintshire.gov.uk neu nia.parry@flintshire.gov.uk