Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Datganiad i'r Wasg o RAF Benson

Published: 14/07/2023

VAL-OFFICIAL-20230321-0117-0256.jpgBydd tri hofrennydd Chinook o Sgwadron 28 (Cydweithrediad y Fyddin), RAF Benson yn gweithredu o RAF y Fali rhwng 24 Gorffennaf a 4 Awst 2023, er mwyn cynnal hyfforddiant hanfodol â chriwiau yn ystod Ymarfer KUKRI DAWN.  

Yr hyfforddiant yw rhan olaf hyfforddiant yr Uned Trosi Gweithredol dan arweiniad Sgwadron 28 (Cydweithrediad y Fyddin), sy’n sicrhau bod criwiau’n cael eu profi mewn amgylcheddau heriol ac anghyfarwydd, cyn cael eu lleoli ar sgwadronau rheng flaen. Bydd yr awyren yn gweithredu mewn ardaloedd o amgylch RAF y Fali, ond byddant hefyd yn teithio dros Lerpwl, Manceinion, Leeds, Swydd Efrog a Middlesbrough yn eu gweithgareddau.  

Mae’r hyfforddiant yn darparu sgiliau allweddol i beilotiaid ac aelodau’r criw weithredu’r hofrenyddion Chinook ar weithgareddau yn y DU a thramor. Mae’r sgiliau’n cynnwys hedfan patrymog, hyfforddiant ar lefel isel, dynwared mudo clwyfedigion a hyfforddiant cyswllt â’r Timau Achub Mynydd. Mae cam gweithredol y cwrs yn benllanw misoedd o hyfforddiant i’r myfyrwyr, ac os bydd popeth yn iawn, byddant yn dychwelyd i RAF Benson yn barod i raddio.  

Byddant yn hedfan yn ystod oriau gwaith arferol RAF y Fali, rhwng 0900 a 1700, ac ni ddisgwylir unrhyw hedfan gyda’r nos. Ar brydiau, efallai y bydd yr hofrenyddion Chinook yn gweithredu mewn parau ar lefel isel ac o bosib y byddant hefyd yn hyfforddi mewn amgylchedd trefol. Dyma ddwy sgil allweddol i’r criwiau. Gwneir pob ymdrech i leihau unrhyw ôl-troed swn. Gall y sawl sy’n marchogaeth ceffylau sicrhau eu bod yn cael eu gweld gan griwiau awyr, trwy wisgo dillad llachar.  

Mae RAF y Fali yn darparu safle gweithredu blaengar ar gyfer yr Uned Trosi Gweithredol, a chefnogir yr hyfforddiant ymhellach trwy gyflwyno’r criwiau i weithredu mewn amgylchoedd anghyfarwydd a gwahanol.