Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cefnogi Rhieni i Gael Gwaith

Published: 20/07/2023

Parents into employment.jpgRhaglen Gyflogaeth Beilot a gaiff ei chefnogi gan Gymunedau am Waith a Mwy yn Sir y Fflint yw Cefnogi Rhieni i Gael Gwaith.  

Wedi’i hanelu at rieni sy’n barod i symud ymlaen o fudd-daliadau i fyd gwaith, mae’r rhaglen hon yn nodi rhwystrau sy’n eu hatal rhag chwilio am waith a’u cefnogi i fynd i’r afael â’r rhain.   Roedd gan bob un o’r rhieni a gymerodd ran yn y rhaglen blant yn mynychu Ysgol Gwynedd, y Fflint, ac fe’u cofrestrwyd ar gyfer y rhaglen gan y Swyddog Cyswllt Rhieni, Zoe Cottam. 

Rhoddwyd cyfle i’r rhieni gwrdd â mentoriaid cyflogaeth o Gymunedau am Waith a Mwy’n wythnosol a chwblhau rhaglen o weithgareddau gan gynnwys paratoi CV, Sgiliau Cyfweld, cwrs Barista, E-ddysgu, Pasbort Lletygarwch, Hyfforddiant EPOS cyn gwirfoddoli mewn lleoliad caffi.    

Drwy’r broses hon, cefnogwyd y rhieni i fagu eu hyder er mwyn iddynt ddechrau credu eu bod yn gallu symud ymlaen a dod o hyd i waith.   Roedd pawb wedi mwynhau’r sesiynau ac wedi cyfoethogi eu CVau gyda chymwysterau a phrofiad. 

Dywedodd Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi, y Cynghorydd David Healey:

“Mae hon yn rhaglen gadarnhaol sy’n cynnig cymorth a chyngor i rieni sy’n barod i ddechrau pontio o fudd-daliadau i fyd cyflogaeth.  Hoffwn i a thîm Cymunedau am Waith a Mwy ddymuno’r gorau i’r grwp wrth iddyn nhw gymryd camau cadarnhaol gyda chymwysterau pellach a chyfleoedd cyflogaeth yn dilyn o'r cwrs hwn.  Maen nhw i gyd yn haeddu clod mawr am eu gwaith.”

Meddai Debbie Barker, Mentor Cyflogaeth rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy: 

“Roedd yn heriol i ddechrau gan nad oedd y cyfranogwyr wedi bod mewn dosbarth ers blynyddoedd, ond wrth i’r grwp ddechrau magu hyder a mwynhau’r hyfforddiant, fe ddechreuon nhw gymryd perchnogaeth dros eu nodau eu hunain i’w hannog i symud ymlaen, ac mae dau o’r grwp eisoes wedi dod o hyd i waith.” 

Dywedodd un o’r cyfranogwyr: 

“Roedd cynnwys y cwrs yn dda iawn, ac mae wedi fy helpu i fagu hyder.   Pan welais fy sgôr ar y diwedd, rhoddodd hwb enfawr i mi.   Nid oeddwn erioed wedi dychmygu y buaswn yn mwynhau dysgu.”

Mae Cymunedau am Waith a Mwy’n rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n cefnogi unrhyw un dros 16 sy’n byw yn Sir y Fflint nad ydynt eisoes mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant.    

Os hoffech chi ddysgu mwy, cysylltwch â cfwtriage@flintshire.gov.uk