Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Newidiadau ir system gofrestru etholiadol
Published: 07/08/2014
Yn ystod mis Awst, dylai holl drigolion Sir y Fflint dderbyn llythyr drwy’r
post ynglyn â’r newid mwyaf i’r system gofrestru etholiadol ers bron i 100
mlynedd.
Bydd dros 118,000 o bobl yn Sir y Fflint yn derbyn llythyr gan y Swyddog
Cofrestru Etholiadol, Colin Everett, yn esbonio system newydd a mwy diogel lle
bydd pob unigolyn bellach yn gyfrifol am gofrestru eu hunain. Mae’r drefn
Cofrestru Etholiadol Unigol yn cael ei chyflwyno yn lle’r hen system ble’r oedd
un unigolyn yn cofrestru pawb sy’n byw mewn eiddo.
Bydd nifer o drigolion Sir y Fflint yn symud i’r gofrestr etholiadol newydd fel
mater o drefn. Fodd bynnag, bydd angen i rai gymryd camau i ymuno ac aros ar y
gofrestr, a bydd modd iddynt wneud hynny nawr am y tro cyntaf drwy gofrestru’n
gyflym ac yn hawdd ar-lein.
Meddai Colin Everett, Swyddog Cofrestru Etholiadol Sir y Fflint:
“Dylai trigolion dderbyn llythyr rhwng 8 – 15 Awst yn esbonio’r newidiadau i’r
system gofrestru etholiadol. Bydd y llythyr yn dweud wrthych p’un a ydych wedi
cael eich trosglwyddo’n awtomatig i’r gofrerstr newydd. Os nad ydych, bydd
angen i chi ddarparu gwybodaeth ycwhanegol a bydd y llythyr yn dweud wrthych yn
union beth ddylech ei wneud.
“Mae’n bwysig iawn fod pawb yn gofalu eu bod wedi cofrestru i’w galluogi i
gymryd rhan mewn etholiadau yn y dyfodol a hoffwn ddiolch i’r preswylwyr o
flaen llaw am eu cydweithrediad.”
Am fwy o wybodaeth edrychwch ar wefan www.siryfflint.gov.uk/ier neu
www.gov.uk/yourvotematters . Os nad ydych yn derbyn llythyr cysylltwch â’r
gwasanaethau etholiadol ar 01352 702412 neu e-bostiwch ier@flintshire.gov.uk