Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhybudd ar ôl Adroddiadau o ‘Gnocwyr Nottingham’ yn ardaloedd Sir y Fflint a Wrecsam

Published: 19/07/2023

Mae Safonau Masnach Sir y Fflint yn dymuno rhybuddio pobl yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau ar draws Sir y Fflint yn cynnwys cnocwyr Nottingham, a elwir hefyd yn ‘werthwyr cadachau’. 

Bechgyn ifanc ydyn nhw fel arfer, yn dod at eich drws gyda bag mawr du yn llawn cynnyrch glanhau sy’n amrywio o dyweli te, cadachau llestri, cadachau, chwistrellwyr, polish, eitemau bychan o ddillad a hyd yn oed cyllyll.  

Fodd bynnag, nid yn unig y maen nhw’n ceisio gwerthu eitemau o ansawdd gwael i chi am brisiau chwyddedig iawn, ond maen nhw hefyd yn chwilio am dargedau hawdd ac yn gwerthu manylion i fyrgleriaid proffesiynol. Mae nifer o bobl sydd wedi prynu eitemau gan gnocwyr Nottingham wedi dioddef byrgleriaeth yn eu cartrefi yn fuan wedyn.  

Yn wreiddiol o ardal Nottingham, byddai’r grwp hwn yn dod i ‘gnocio’ ar ddrysau pobl i werthu, a dyna lle ddaw’r term cnocwyr Nottingham.  

Bydd Cnocwyr Nottingham yn cyfaddef eu bod yn gyn-droseddwyr.

Bu adroddiadau diweddar ohonynt ar draws ardal Sir y Fflint a Wrecsam ac mewn rhai sefyllfaoedd maent wedi bod yn ymosodol, sydd wedi dychryn ac achosi gofid i berchnogion tai.  Mae Safonau Masnach yn eich cynghori i edrych drwy’r ffenestr gyntaf a pheidio agor y drws i unrhyw un nad ydych yn siwr ohonynt.  

Maent yn dweud bod y dynion hyn yn teithio i ardal mewn faniau neu fysus mini ac yn gweithio mewn timau ar draws cymdogaeth fel arfer.

Byddan nhw’n cyfaddef eu bod nhw’n gyn-droseddwyr sy’n ceisio dechrau o’r newydd ac efallai’n dangos cerdyn o’u cynllun prawf, yn ôl y sôn. Nid oes gan y cardiau adnabod hyn unrhyw draul gyfreithiol.  Mae’r dynion ifanc yn delio gydag arian parod ar garreg drws. Os byddwch chi’n prynu ganddyn nhw unwaith byddant yn dychwelyd eto i geisio gwerthu mwy i chi.

Mewn ardaloedd eraill, maent hyd yn oed wedi bod yn dreisiol ac wedi gorfodi eu ffordd i mewn i gartrefi pobl i gael mwy o arian parod. Ni adroddwyd ar hyn yn ardal Sir y Fflint a Wrecsam hyd yma, ond mae’r dynion wedi bod yn ymosodol. Eto, cofiwch fod y gwerthwyr hyn yn droseddwyr proffesiynol a’r ffordd orau i gadw’n ddiogel yw peidio ymwneud â nhw. 

Os bydd cnocwyr Nottingham yn ymweld â chi, rhowch wybod i Heddlu Gogledd Cymru gynted ag y gallwch drwy ffonio 101 i roi’r cyfle gorau i’r heddlu ddod i’ch ardal a dal yr unigolion.   Ceisiwch gofnodi unrhyw fanylion, gan gynnwys rhif cofrestru cerbyd. 

Fodd bynnag, os byddant yn eich bygwth neu’n eich trin yn ymosodol ar garreg y drws, deialwch 999 ar gyfer ymateb i argyfwng.

Os byddwch yn bryderus bod cnocwyr Nottingham wedi cysylltu â chi gallwch hefyd roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau i’r Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor Ar Bopeth ar 0808 223 1133.