Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Off Flint – Dathlu ein tref, ein castell a’n harfordir

Published: 31/07/2023

exhibition invitation_page-0001.jpgEstynnir gwahoddiad i chi ddod i weld gwaith celf bendigedig ar y thema ‘Off Fflint’ a grëwyd gan y bobl ifanc sy’n mynd i Glwb Celf Helen Taylor yn Llyfrgell y Fflint.

Ym mis Tachwedd 2022 dechreuodd yr artistiaid, sydd rhwng 7 a 14 oed, ddarlunio Castell y Fflint mewn arddulliau hanesyddol poblogaidd yn cynnwys Celf Ganoloesol, Argraffiadaeth a Chelf Pop gydag ychydig o ryddid celfyddydol personol!

Aethant ymlaen i ddarlunio’r bobl sydd wedi byw a gweithio yn y Fflint ers i’r Castell gael ei adeiladu er mwyn creu montage o dorf.

Wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen cynhyrchodd y plant fwy o waith celf anhygoel yn cynnwys collage ar y cyd o adar ar Aber Dyfrdwy, pysgod mewn cyfryngau cymysg a darluniadau o’r gerdd ‘Sands of the River Dee’ gan Charles Kingsley. 

Roedd y prosiect terfynol yn edrych ar gychod Aber Dyfrdwy drwy hanes i greu ail ganfas cydweithredol. 

Mae’r arddangosfa’n cael ei chynnal o 28 Gorffennaf gan 29 Awst gyda mynediad am ddim yn ystod oriau agor arferol y llyfrgell.

Mae Helen Taylor yn artist proffesiynol sydd wedi’i hysbrydoli gan J. M. W. Turner ac wrth ei bodd yn creu tirluniau gweadol atmosfferig gydag acrylig. Mae Helen yn arddangos ei gwaith yn rheolaidd ac ar hyn o bryd mae rhai o’i phaentiadau wedi’u harddangos yn yr Wyddgrug, Qube yng Nghroesoswallt, arddangosfa Life: Full Colour in Caernarfon ac yn  Ffair Gelf Lerpwl 2023 Mae Helen wedi bod yn rhedeg dosbarthiadau celf yn lleol ers 2011 ac mae hi hefyd yn gweithio ar amrywiaeth eang o brosiectau celf cymunedol.

Mae ‘Off Fflint’ yn cynnwys pobl leol mewn cofnodi, cadw a dathlu treftadaeth gyfoethog tref, castell ac arfordir y Fflint. Gwahoddir unigolion a grwpiau i gymryd rhan drwy gasglu a rhannu hen ffotograffau, arteffactau a straeon bob dydd am y Fflint a fydd yn cael eu defnyddio i gychwyn archif gymunedol newydd yn Llyfrgell y Fflint fel bod y wybodaeth ar gael i bawb. Cynhelir sesiynau galw heibio anffurfiol yn Llyfrgell y Fflint bob bore Mawrth o 10am tan hanner dydd yn ystod y tymor ysgol.

I gael rhagor o fanylion cysylltwch â Jo Danson - jo.danson@flintshire.gov.uk 

IMG-8723.jpg Birds of the Dee.jpeg