Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn dosbarthu Rhybudd Cosb Benodedig ar gyfer Tipio anghyfreithlon

Published: 31/07/2023

AdobeStock_4599019.jpegMae Cyngor Sir y Fflint wedi dosbarthu Rhybudd Cosb Benodedig o £300 yn ddiweddar dan Adran 33 Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 i unigolyn a oedd wedi diystyru eu dyletswydd gofal ac wedi taflu eitemau o wastraff cartref ar y stryd.  Cynhaliwyd yr ymchwiliad llwyddiannus hwn gan Swyddogion Gorfodi’r Cyngor yn dilyn achosion parhaus o dipio anghyfreithlon yn ardal Cei Connah.

Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a’r Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Dave Hughes:

“Mae'r Cyngor yn derbyn ac yn ymchwilio tua 1,400 o adroddiadau tipio anghyfreithlon bob blwyddyn.  

Nid yw tipio anghyfreithlon yn dderbyniol, ac mae’n weithgarwch troseddol a all achosi llygredd difrifol i’r amgylchedd, gall fod yn berygl i iechyd dynol a niweidio bywyd gwyllt ac anifeiliaid fferm, yn ogystal â dargyfeirio timau hanfodol i ffwrdd o reng flaen casgliadau gwastraff.

Dyma ganlyniad gwych ar gyfer y Cyngor, ac mae’n dangos na fydd yr ymddygiad hwn yn cael ei oddef.”

Rydym yn annog preswylwyr i waredu eu heitemau gwastraff yn gywir gan ddefnyddio’r gwasanaeth casgliadau ailgylchu a gwastraff stepen drws, neu drwy un o bum canolfan ailgylchu. Pan mae gan breswylydd swmp o ailgylchu a gwastraff i waredu, yna rydym yn argymell defnyddio gwasanaethau cwmni llogi sgip cymeradwy neu gontractwr gwaredu gwastraff. Mae rhagor o wybodaeth i’w gweld ar wefan y Cyngor.