Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Timau Llyfrgell Gladstone a’r Hen Reithordy, Penarlâg yn dod ynghyd i gynnal Digwyddiadau Drysau Agored 

Published: 24/08/2023

Open Doors image The Old Rectory Hawarden.jpgBydd dau adeilad hanesyddol ym Mhenarlâg yn rhoi’r cyfle i ymwelwyr gael cipolwg y tu ôl i’r llen, lle na chaniateir mynediad i’r cyhoedd fel arfer. 

Ddydd Sadwrn, 16 Medi 2023, gall ymwelwyr fynd ar daith gyfunol o’r ddau eiddo, fel rhan o ddigwyddiadau Drysau Agored, gwyl hynod boblogaidd Cadw o dreftadaeth adeiledig Cymru. Mae hanes Llyfrgell Gladstone a’r Hen Reithordy yn cydblethu. Roedd llawer o breswylwyr yr Hen Reithordy yn deulu agos i’r Gladstones, a chwaraeodd ran bwysig yn siapio Llyfrgell Gladstone yn dilyn ei farwolaeth. Er mwyn nodi 125 mlynedd ers marwolaeth W. E. Gladstone, y thema Drysau Agored eleni yn y Llyfrgell a’r Hen Reithordy yw ‘Teulu’r Gladstone ym Mhenarlâg’ ac mae’r ddau leoliad wedi dod ynghyd i gynnig taith gyfunol o’r ddau safle.  

Bydd y Llyfrgell yn cynnig cyfle i weld rhai o uchafbwyntiau archifau a chasgliadau printiedig Llyfrgell Gladstone, taith o amgylch yr Ystafelloedd Darllen a chipolwg y tu ôl i’r llen yn yr ystafelloedd diogel. Yn yr Hen Reithgor, sydd bellach yn gartref i Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, gallwch wylio fideo sy’n adrodd hanes cysylltiad y teulu Gladstone â’r ty, gan gynnwys cipolwg ar sut roedd yr adeilad yn edrych yn ystod eu cyfnod yno, mynd ar daith o amgylch yr ystafelloedd diogel lle’r oedd archifau’r Sir yn cael eu cadw ac ymweld â’r Stiwdio Gadwraeth i gael gweld arddangosfa o sut cedwir dogfennau hanesyddol. Mae teithiau’n para tua 90 munud a bydd lluniaeth blasus ar gael yng nghaffi Llyfrgell Gladstone. 

Meddai’r Parchedig Dr Andrea Russell, Warden Llyfrgell Gladstone, “Rydym yn falch o gydweithio â’n cymdogion ar ddigwyddiad sy’n manteisio ar yr hanes sy’n gyffredin rhyngom, yn ogystal â’n daearyddiaeth agos. Mae tîm y Llyfrgell yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr ar ddiwrnod sy’n dathlu hanes diddorol Penarlâg’. 

Meddai’r Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden, Cyngor Sir y Fflint: 

“Mae menter y Diwrnodau Treftadaeth Ewropeaidd yn annog preswylwyr ac ymwelwyr i archwilio rhai o safleoedd llai adnabyddus Cymru, nad ydynt ar agor i’r cyhoedd fel arfer. Mae’r digwyddiad Drysau Agored yn gyfle gwych i gael cipolwg y tu ôl i’r llen a byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu am hanes Penarlâg a’r gwaith a wneir ar y ddau safle i ddod draw.” 

Mae’n rhaid archebu ymlaen llaw ar gyfer pob taith, sy’n cychwyn o’r ddau safle am 10am, 11.30am ac 1pm. Dim ond un daith sydd angen i chi ei harchebu er mwyn cael ymweld â’r ddau safle. I archebu taith yn cychwyn o Lyfrgell Gladstone, ffoniwch 01244 532350 neu anfonwch e-bost at: enquiries@gladlib.org. I archebu taith yn cychwyn o’r Hen Reithordy, ffoniwch 01244 532364 neu anfonwch e-bost at: archives@newa.wales  

Mae teithiau yn rhad ac am ddim - archebwch nawr rhag i chi gael eich siomi!