Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


At Sylw Gadawyr Ysgol!

Published: 02/08/2023

Jobs Fair (1).jpgA ydych wedi gadael ysgol ac yn ansicr ynglyn â beth i’w wneud nesaf?

Ydych chi’n chwilio am waith? A ydych eisiau profiad o hyfforddiant neu wirfoddoli?  Ydych chi’n chwilio am brentisiaeth?  

Bydd Cymunedau am Waith a Mwy Sir y Fflint, Canolfan Byd Gwaith a Mwy a Gyrfa Cymru yn eich ardal dros yr haf i gynnig cyngor, arweiniad a syniadau am y camau nesaf y gallwch eu cymryd. 

Galwch heibio un o’n digwyddiadau galw heibio a chael sgwrs gyda’r tîm.   

  • 10 Awst 11am - 1pm ym Marchnad y Dref, Treffynnon
  • 16 Awst 11am - 1pm ym Marchnad Yr Wyddgrug (Sgwâr Daniel Owen)
  • Parc Brychdyn (tu allan i Costa) - 30 Awst 11am - 1pm

Neu Nia Parry/Janiene Davies yng Nghymunedau am Waith a Mwy   janiene.davies@flintshire.gov.uk neu nia.parry@flintshire.gov.uk 

Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru.  Mae gennym dîm pwrpasol sydd ar gael ar draws Sir y Fflint sy’n darparu cyngor a mentora un-i-un.   Rydym yn wasanaeth sy’n seiliedig yn y gymuned ac yn gweithio i wella sgiliau gwaith ar gyfer pobl sydd ddim mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant sydd o bosib yn wynebu rhwystrau cymhleth i gyflogaeth.