Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgolion Sir y Fflint yn dathlu Diwrnod Canlyniadau

Published: 17/08/2023

Mae myfyrwyr chweched dosbarth mewn ysgolion yn Sir y Fflint yn dathlu heddiw wrth i ddosbarth 2023 gael eu canlyniadau arholiad. 

Dywedodd y Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden:

"Mae'r Cyngor yn anfon ei ddymuniadau gorau i bob dysgwr ôl-16 yn Sir y Fflint sy'n derbyn eu canlyniadau heddiw. Rwy'n gobeithio y bydd y canlyniadau hyn yn eu galluogi i symud i gam nesaf eu taith, boed mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.

"Rwy’n dymuno pob llwyddiant iddynt yn y dyfodol.”

Dywedodd Claire Homard Prif Swyddog, Addysg ac Ieuenctid:

“Fe hoffwn estyn fy llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr ôl-16 ar eu canlyniadau eleni. Gall pob myfyriwr fod yn falch iawn o’u cyflawniadau a dymunaf bob llwyddiant iddynt yn eu dyfodol.

"Rwy’n cydnabod ymrwymiad eu teuluoedd a’u hysgolion i’w cefnogi drwy gydol eu hastudiaethau.

"Mae’n bwysig hefyd atgoffa ein myfyrwyr mai dim ond un diwrnod yn y darlun ehangach o’u bywyd yw diwrnod canlyniadau. Gwyddom y gall hwn fod yn gyfnod anodd i rai myfyrwyr, gydag amrywiaeth o emosiynau, a byddwn yn annog unrhyw berson ifanc a allai fod yn cael trafferth, i ofyn am gymorth.Gwn y bydd ein staff ysgol ymroddedig iawn yn parhau i gynnig cymorth a chyngor i ddysgwyr dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf wrth wneud dewisiadau am lwybrau’r dyfodol.