Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y wybodaeth ddiweddaraf am gwynion yn ymwneud ag arogl

Published: 21/08/2023

Mae Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint yn ymchwilio i gwynion am arogl yn yr ardal, o Gei Connah i Sandycroft.

Derbyniwyd y gwyn ffurfiol gyntaf ar ddiwedd mis Ebrill 2023, ac ers hynny, mae’r Cyngor wedi bod yn cydweithio â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i ddarganfod tarddiad yr arogl.

Mae Swyddogion wedi ymweld ac asesu busnesau lleol sydd yn rhyddhau cynnyrch gwastraff i’r amgylchedd yn rhan o’u gweithrediad, yn ogystal â nifer o safleoedd llai yn ardal Sandycroft o ble cafwyd y mwyaf o gwynion.

Dywedodd yr Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Chris Bithell: “Gallaf sicrhau preswylwyr ein bod ni’n gwneud popeth y gallwn ni i ddarganfod beth yw tarddiad yr arogl. Yn sgil y gwaith sydd wedi’i wneud gan y Cyngor a Chyfoeth Naturiol Cymru, mae sawl trywydd ymholi yn cael eu gwirio.

“Rydym ni wrthi’n penodi arbenigwr arogl annibynnol er mwyn ceisio cadarnhau beth yw’r tarddiad neu darddiadau. Yn y cyfamser, rydym ni’n gofyn i breswylwyr barhau i roi gwybod i ni am ddigwyddiadau. Yn rhan o’r ymchwiliad, rydym wedi gofyn i grwp o breswylwyr gofnodi pryd mae’r arogl yn effeithio arnynt, pa mor aml, a pha mor gryf.”

Er mwyn rhoi gwybod am arogl, ffoniwch 01352 703440 neu e-bostiwch Pollution.Control@flintshire.gov.uk