Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgolion Sir y Fflint yn dathlu Canlyniadau TGAU

Published: 24/08/2023

Mae myfyrwyr yn Sir y Fflint yn dathlu heddiw wrth iddyn nhw dderbyn eu canlyniadau TGAU. 

Dywedodd y Cynghorydd Mared Eastwood - Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden: “Mae’r Cyngor yn falch iawn o’n disgyblion blwyddyn 11 am wneud yr holl waith caled i gael y graddau maen nhw wedi eu cael. Anfonaf fy llongyfarchiadau cynhesaf atynt a dymuno pob llwyddiant iddynt yn eu camau nesaf. Hoffwn ddiolch i’r holl staff yn yr ysgolion sydd wedi gweithio mor galed i alluogi i’r myfyrwyr lwyddo ac i’r holl rieni a gofalwyr sydd wedi darparu cefnogaeth ac anogaeth i'w plant. 

Dywedodd Claire Homard Prif Swyddog, Addysg ac Ieuenctid: “Hoffwn longyfarch ein dysgwyr sy’n derbyn eu canlyniadau heddiw. Fe hoffwn hefyd gydnabod gwaith y rhieni a gofalwyr yn cefnogi a thywys eu plant, a diolch iddynt am weithio mewn partneriaeth gyda’n hysgolion. 

"Mae ein hysgolion wedi gweithio’n galed i sicrhau bod ein disgyblion yn cael pob cyfle i lwyddo a hoffwn ddiolch iddynt am bopeth y maent yn ei wneud. Rydw i’n gwybod y byddant yn parhau i ddarparu cefnogaeth a chyngor i ddysgwyr wrth iddynt wneud penderfyniadau am lwybrau’r dyfodol a pharatoi ar gyfer mis Medi. Rydyn ni’n gwybod y gall diwrnodau canlyniadau fod yn gyfnod anodd i rai pobl ifanc, a byddwn yn annog unrhyw berson ifanc a allai fod yn ei chael hi’n anodd, i ofyn am gymorth.”