Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Myfyrwyr Prosiect SEARCH yn Dathlu Llwyddiant

Published: 24/08/2023

Mae grwp o fyfyrwyr Prosiect SEARCH wedi dathlu cwblhau eu hinterniaethau mewn seremoni raddio o flaen teulu a ffrindiau.

Mae’r cynllun yn interniaeth 12 mis i bobl ifanc ag anableddau dysgu neu awtistiaeth sy’n gadael addysg.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gefnogwyr balch o’r prosiect ers iddo gael ei lansio yn 2019 mewn partneriaeth ag elusen Hft, ac yn fwy diweddar, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).

Mae’r rhaglen yn Sir y Fflint wedi ehangu dros y 12 mis diwethaf i gynnig 2 interniaeth, a hwn oedd y cynllun Prosiect SEARCH cyntaf yn y DU i gynnig rhaglen bwrpasol i oedolion dros 25 oed, yn ogystal ag unigolion o dan 25 oed.

Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts: “Roedd yn bleser cael bod yn bresennol yn y seremoni raddio a chael clywed am y profiadau y mae’r bobl ifanc wedi’u cael fel rhan o’r prosiect.  Hoffwn ddiolch i bawb sy’n rhan o’r prosiect ac rwyf yn gobeithio am ganlyniadau da i’r holl ddisgyblion.”

Mae Prosiect SEARCH yn rhaglen interniaeth ryngwladol ar gyfer unigolion gydag anableddau dysgu a / neu awtistiaeth. Mae’r rhaglen yn defnyddio gwaith partneriaeth ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i greu interniaethau cyflogaeth â chymorth o fewn amrywiaeth o leoliadau gwaith.  Mae’r sgiliau a’r profiadau mae interniaid yn eu cael wrth gymryd rhan yn y rhaglen yn eu cynorthwyo â gwneud trosglwyddiad cadarnhaol i amgylchedd gwaith cyflogedig.

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: “Mae Prosiect SEARCH yn tynnu sylw at sgiliau a thalent ein pobl ifanc lleol. Yn Sir y Fflint, rydym wedi ymrwymo i sicrhau fod pawb yn cael y cyfle i weithio, ennill cyflog, datblygu eu sgiliau a bod yn rhan o’r gymuned. 

“Da iawn i’r holl raddedigion ac rydym yn dymuno pob lwc iddyn nhw yn y dyfodol.”

Mae interniaid blaenorol o Brosiect SEARCH yn Sir y Fflint wedi mynd ymlaen i ennill rolau llwyddiannus mewn busnesau lleol yn ogystal â’r Cyngor, ac mae rhai o’r interniaid sy’n graddio eleni eisoes wedi sicrhau cyflogaeth. Mae cefnogaeth ddilynol yn cael ei darparu gan hyfforddwyr cyflogadwyedd i gynorthwyo graddedigion â chwilio am waith â thâl.