Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Twyll Atgyweirio Tai

Published: 25/08/2023

Scam W.jpgMae Adran Safonau Masnach Sir y Fflint yn rhybuddio preswylwyr am dwyll diweddar yn ymwneud ag atgyweirio tai.

Mae preswylwyr wedi bod yn cael galwad ffôn yn dweud wrthynt bod angen gwneud gwaith atgyweirio ar eu heiddo. Yn ystod yr alwad ffôn gofynnir i’r preswylydd am fynediad i’r eiddo. 

Mae’n bosibl bydd y galwr hefyd yn crybwyll bod gan y preswylydd hawl i iawndal am waith atgyweirio sydd heb ei wneud.

Twyll yw’r galwadau hyn.

 

Os ydych yn derbyn galwad ffôn yn honni ei bod gan Adran Atgyweirio Tai Cyngor Sir y Fflint, peidiwch â rhoi unrhyw wybodaeth bersonol, ac os ydych yn ansicr, cysylltwch â Thîm Atgyweirio Tai Sir y Fflint neu Wasanaethau i Gwsmeriaid Cyngor Sir y Fflint ar 01352 703020.