Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint ar y trywydd cywir i adeiladu cannoedd o dai newydd fforddiadwy

Published: 07/09/2023

Disgwylir y bydd dros 700 o dai newydd yn cael eu hadeiladu yn Sir y Fflint dros y tair blynedd nesaf.

Bydd aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai yn cyfarfod ddydd Iau nesaf i drafod Cynllun Gweithredu Strategaeth Tai 2019-2024 y Cyngor.

Mae’r cynllun yn amlinellu gweledigaeth y Cyngor o ran sut y bydd, ar y cyd a’i bartneriaid, yn darparu tai fforddiadwy, yn rhoi’r gefnogaeth briodol i’w drigolion ac yn sicrhau ei fod yn codi tai cynaliadwy.

Mae  nifer y tai a gwblhawyd yn is na’r targed o hyd yn y flwyddyn gyfredol ond mae Sir y Fflint ar y trywydd cywir i ddarparu oddeutu  730 o dai fforddiadwy a thai cymdeithasol newydd dros y tair blynedd nesaf, yn amodol ar ymgynghoriad a chymeradwyaeth cynllunio.

Dros y cyfnod hwn o dair blynedd bydd Sir y Fflint yn cael oddeutu £40 miliwn gan Lywodraeth Cymru i’w helpu i wireddu ei flaenoriaethau o ran tai cymdeithasol.

Meddai Vicky Clark, Prif Swyddog Tai a Chymunedau:  “Yn unol â’r rhagolygon yn adroddiad y llynedd rydym yn dal i weld bwlch sylweddol yn natblygiad tai newydd ar draws y sir. Mae hyn oherwydd effeithiau’r pandemig, yr argyfwng costau byw, cyfraddau llog yn codi,  chwyddiant ar gyflogau a deunyddiau ac oedi o ran cael gafael ar ddeunyddiau.

“Er gwaethaf yr oedi, bu cynnydd ac mae’r cyngor wedi llwyddo i addasu’n gyson i ffyrdd newydd o weithio.

“Bydd nifer y tai newydd sy’n cael eu cwblhau yn cynyddu yn y blynyddoedd i ddod wrth i’r Rhaglen Datblygu a Gynlluniwyd, sydd wedi ennill cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru, baratoi i ddarparu tua 730 o gartrefi newydd.

Bydd Aelodau hefyd yn adolygu’r adroddiad ar gynnydd ac yn nodi’r blaenoriaethau y mae’r cyngor wedi eu gwireddu a’r rhai y mae angen gwneud rhagor o waith arnynt.

Mae’r adroddiad yn dweud y cwblhawyd 44 o eiddo rhent cymdeithasol newydd yn 2022/23 allan o’r targed o 86, a chwblhawyd 5 allan o’r 10 uned darpariaeth arbennig arfaethedig. Fodd bynnag bu cynnydd o 20% yn nifer yr eiddo rhent cymdeithasol un ystafell wely a daeth y cyngor a 58 o eiddo gwag yn ôl i ddefnydd.

Fel rhan o’r gwaith i wella safon a chynaliadwyedd cartrefi pobl, mae gwelliannau’n cael eu gwneud i gartrefi sy’n profi tlodi tanwydd, yn cynnwys cyngor ar newid i dariff gwahanol a gosod systemau gwresogi effeithlon. Mae dros 1,000 o aelwydydd wedi cael cymorth.

Dywedodd y Cynghorydd Sean Bibby, Aelod Cabinet Tai ac Adfywio: “Er gwaethaf yr heriau sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’n beth cadarnhaol gweld bod cynnydd yn cael ei wneud. Mae gennym gryn dipyn o ffordd i fynd eto ond rwy’n hyderus y byddwn yn gwireddu ein nod o ddarparu’r tai cywir ar gyfer ein preswylwyr, mewn ffordd gynaliadwy.”