Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynghorwyr yn paratoi i adolygu’r gyllideb

Published: 08/09/2023

Bydd Aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn cyfarfod ddydd Iau i dderbyn diweddariad ar sefyllfa ariannol y cyngor ar gyfer 2024/25.

Mae’r cyfarfod hwn yn dilyn cyfarfod ym mis Gorffennaf pan gafodd yr aelodau eu cynghori bod gofyniad cyllidebol o tua £32 miliwn yn ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Ers hynny mae gwaith ychwanegol wedi’i wneud i geisio atebion a hyd yma llwyddwyd i ddod o hyd i £18 miliwn, sydd yn gadael bwlch o £14 miliwn. 

Dywedodd Gary Ferguson, Rheolwr Cyllid Corfforaethol: “Yn amlwg mae’r cyngor yn wynebu her gyllidebol fawr ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25 os nad oes unrhyw gynnydd yn y setliad arfaethedig o 3.1% gan Lywodraeth Cymru.

“Ar hyn o bryd y swm y mae angen dod o hyd iddo i sicrhau cyllideb gyfreithlon a mantoledig yw £14 miliwn a bydd yn rhaid i’r cyngor ystyried ar fyrder ragor o ostyngiadau mewn costau ar raddfa sylweddol i bontio’r bwlch hwnnw fel mater o flaenoriaeth”.

Fodd bynnag dynodwyd sawl risg a fydd o bosib yn rhoi rhagor o bwysau ar y gyllideb.

Mae mwy a mwy o bobl yn troi at y gwasanaeth digartrefedd am gymorth ac mae’r gorwariant rhagamcanol yn y flwyddyn ariannol bresennol wedi codi i £2.4m dros yr haf.

Mae’r pwysau parhaus ar ofal cymdeithasol a’r adolygiad o’r Strategaeth Gwastraff hefyd yn debygol o effeithio ar gostau, yn ogystal â chanlyniad y dyfarniadau cyflog sydd yn dal i gael eu trafod a’u cytuno’n genedlaethol.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson, Aelod Cabinet Cyllid: “Bydd Cyngor Sir y Fflint yn parhau i gyflwyno achos cryf am  setliad gwell i Lywodraeth Cymru. Byddwn yn gweithio ochr yn ochr â chynghorau Cymru drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ar hyn,  er wrth gwrs yn cydnabod fod gan Lywodraeth Cymru ei hun sefyllfa gyllidol heriol i fynd i’r afael â hi.

“I sicrhau y gall ein cyngor ddiogelu ei sefyllfa ariannol ar gyfer y dyfodol a’i fod yn barod i wynebu heriau cyllidebol anorfod eraill yn y dyfodol, bydd yn rhaid i ni ystyried mesurau a allent gynnwys datblygu a thrawsnewid radical yn y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu.”

 Bydd y pwysau costau a’r gostyngiadau mewn costau sydd wedi’u hadnabod hyd yma yn cael eu hystyried gan y pwyllgorau trosolwg a chraffu perthnasol.