Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cyngor yn nodi newidiadau i Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl

Published: 07/09/2023

Fel Awdurdod Lleol mae ar Gyngor Sir y Fflint ddyletswydd fandadol i ddarparu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl (GCA) ar gyfer gwneud addasiadau neu ddarparu cyfleusterau ar gyfer unigolyn anabl, i’w cynorthwyo nhw i barhau i fyw yn annibynnol yn eu cartref eu hunain. 

Yn ddiweddar addaswyd y Polisi Addasiadau i’r Anabl i alinio addasiadau i’r anabl yn y sector preifat ag addasiadau yn nhai cyngor awdurdodau lleol.

Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n gosod y terfyn statudol ar gyfer unrhyw GCA ac ar hyn o bryd mae’n £36,000 fesul cais o fewn cyfnod o bum mlynedd. Mae’r grant yn destun profion modd oni bai bod y cais ar gyfer plentyn neu os yw’r ymgeisydd yn derbyn budd-daliadau cymwys penodol. 

Fodd bynnag mae yna Bolisi Grant yn ôl Disgresiwn lle mae’n bosibl na chynhelir profion modd ar addasiadau o faint canolig oni bai eu bod yn gyfuniad o waith, mae hyn ar ddisgresiwn y Rheolwr Addasiadau i‘r Anabl.  

Caiff cartrefi wedyn eu hasesu gan syrfëwr a therapydd galwedigaethol er mwyn sicrhau y gwneir yr ystyriaethau priodol i bennu’r atebion hirdymor mwyaf addas ar gyfer yr unigolyn a’u hanghenion, yn ogystal â’r atebion mwyaf cost effeithio, cyn dechrau ar unrhyw addasiadau.

Mae addasiadau yn sector tai’r Awdurdod Lleol yn dilyn yr un ddeddfwriaeth a safonau Llywodraeth Cymru a’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl, fodd bynnag mae rhai gwahaniaethau gan fod yr addasiadau’n cael eu talu amdanynt o’r Cyfrif Refeniw Tai. Fel Cyngor cyfrifol mae’n bwysig ein bod yn gwneud y defnydd gorau o’n stoc tai a’r gyllideb sydd ar gael,  felly mae’r Polisi Addasiadau i’r Anabl yn rhoi manylion llawn ynghylch yr ystyriaethau ychwanegol angenrheidiol wrth benderfynu a ddylid cymeradwyo’r addasiadau, pa un a ydynt yn addasiadau drwy GCA neu Dai’r Awdurdod Lleol.

Ers 2021 mae CSyFf wedi cwblhau dros 250 o addasiadau sector preifat mawr/canolig ac ers 2022 wedi cwblhau dros 600 o addasiadau bach a dros 160 o addasiadau canolig/mawr ar gyfer y sector Awdurdod Lleol. 

Meddai Vicky Clark, Prif Swyddog Tai a Chymunedau: "Drwy alinio addasiadau ar gyfer y sector preifat â rhai ar gyfer tai cyngor awdurdodau lleol, byddwn yn cael effaith gadarnhaol ar yr atebion mwy hirdymor i alluogi pobl anabl yn ein cymunedau i fyw yn ddiogel ac yn fwy cyfforddus am yn hirach yn eu cartrefi  eu hunain.”

Dywedodd y Cynghorydd Sean Bibby - Aelod Cabinet Tai ac Adfywio: “mae integreiddio ar draws y Polisi Addasiadau i’r Anabl yn enghraifft gadarnhaol o gydweithio ar draws pob sector i gefnogi pobl anabl yn ein cymunedau mewn ffordd fwy effeithiol ac effeithlon.”