Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Uchelgeisiau tai Sir y Fflint wedi eu nodi mewn prosbectws

Published: 07/09/2023

Mae’n ofynnol i Awdurdodau Lleol ddatblygu Prosbectws Anghenion Tai blynyddol i adlewyrchu’r anghenion o ran tai a rhannu blaenoriaethau Sir y Fflint er mwyn hysbysu darpariaeth tai fforddiadwy a siapio’r Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol a ariennir gan Lywodraeth Cymru. 

Yn Sir y Fflint rydym wedi gweithio’n agos â’n timau ar draws Tai, y Gwasanaethau Cymdeithasol, Digartrefedd a Chynllunio i adolygu a datblygu ein prosbectws er mwyn adlewyrchu’r galw cynyddol ar wasanaethau’r Cyngor a’r uchelgeisiau a nodir yn Strategaeth Tai Sir y Fflint 2019-25

Bydd Llywodraeth Cymru’n cyfeirio at y prosbectws wrth iddynt graffu ar geisiadau am y Grant Tai Cymdeithasol a bydd yn adnodd defnyddiol i ddarparwyr tai er mwyn eu galluogi i  ddiwallu blaenoriaethau’r Cyngor a’r angen am dai yn yr ardal yn well.

Dros y tair blynedd nesaf mae Llywodraeth Cymru wedi clustnodi oddeutu £40 miliwn o Grant Tai Cymdeithasol i Gyngor Sir y Fflint. Rydym wedi derbyn ceisiadau am gynlluniau Grant Tai Cymdeithasol sy’n werth cyfanswm o £64 miliwn ar hyn o bryd ac mae’n bosibl  y bydd rhywfaint o’r cyllid grant a glustnodwyd yn disgyn y tu allan i’r ffenestr gyllido tair blynedd. 

Dywedodd Vicky Clark - Prif Swyddog Tai a Chymunedau: “Mae sicrhau bod ein cartrefi a’n cymunedau’n parhau i fod yn addas ar gyfer anghenion ein preswylwyr o’r pwys mwyaf. 

“Mae gweithio gyda Llywodraeth Cymru a datblygu ein Prosbectws Anghenion Tai yn ein galluogi i fod yn hyblyg pe bai anghenion ein preswylwyr yn newid.

Meddai’r Cynghorydd Sean Bibby - Aelod Cabinet Tai ac Adfywo: “Bydd yr angen am dai fforddiadwy yn dal i gynyddu wrth i’r argyfwng costau byw barhau.

“Mae rhaglenni fel y Grant Tai Cymdeithasol yn bwysicach nag erioed ac ochr yn ochr â’r Prosbectws Anghenion Tai, byddant yn cefnogi blaenoriaethau Sir y Fflint  ac yn diwallu anghenion ei gymunedau.”