Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cais Gwesty Northop Hall Country House – Dyddiad y Pwyllgor Cynllunio

Published: 15/09/2023

Oherwydd nifer y sylwadau sydd wedi dod i law mewn perthynas â chais rhif FUL/000489/23 Cais Llawn - Defnyddio gwesty a gosod llety modiwlaidd dros dro am gyfnod o hyd at 7 blynedd i ddarparu Hostel Llety Cychwynnol AASC yng Ngwesty Northop Hall Country House, Northop Hall, nid ydym ni’n gallu dilyn ein proses arferol o hysbysu dyddiad y Pwyllgor Cynllunio a’r manylion ynglyn â chofrestru i siarad yn ystod y cyfarfod. Yn hytrach, rhoddir hysbysiad drwy’r datganiad hwn.

Bydd y cais cynllunio yn cael ei ystyried yn ystod cyfarfod hybrid o’r Pwyllgor Cynllunio ar 27 Medi am 1pm yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, yr Wyddgrug. Mae’r manylion ynglyn â sut i siarad yn y cyfarfod ar gael yma

Hyn a hyn o lefydd sydd ar gael i’r cyhoedd yn Siambr y Cyngor ac felly byddwn yn blaenoriaethu’r rheiny sydd wedi cofrestru i siarad ar y ceisiadau gerbron y Pwyllgor.

Bydd y cyfarfod yn cael ei ffrydio’n fyw ar wefan Cyngor Sir y Fflint a bydd copi o’r recordiad yn cael ei uwchlwytho ar wefan y Cyngor wedyn.