Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Pabell y ddwy sir yn ennill anrhydedd yn y sioe
Published: 22/08/2014
Rhoddwyd anrhydedd i ymdrechion Cynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint i
hyrwyddo trysorau twristaidd cudd y ddwy sir yn Sioe Amaethyddol Dinbych a
Fflint ddoe (dydd Iau, 21 Awst).
Mae’r ddau gyngor wedi uno dros y saith mlynedd diwethaf i gynnal pabell ar y
cyd ar gaer sioe, a ‘Trysorau Cudd: Ar Stepen Eich Drws’ oedd y thema eleni.
Roedd yr arddangosfa yn cynnwys llefydd i’w hymweld yn y ddwy sir, ac yn
hyrwyddo Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Roedd yr arddangosfa yn cynnwys traeth bychan, gwneud barcud a bathodynnau a
chloddfa fechan i hyrwyddo cysylltiadau archeolegol y rhanbarth a chrëwyd wal
garreg sych i hyrwyddo gwaith rheoli cefn gwlad syn diogelu a gwella ein cefn
gwlad golygfaol.
Trefnwyd cystadleuaeth ar gyfer disgyblion ysgol i ddylunio eu posteri eu
hunain i hyrwyddo lleoliadau yn yr ardal. Roedd y ddau enillwr a ddewiswyd o
Ysgol Frongoch, Dinbych a rhoddwyd tocynnau teulu iddynt, gan Gymdeithas
Amaethyddol Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Roedd cystadleuaeth hamper hefyd, a
chafodd yr enillydd o Gei Connah hamper moethus yn llawn cynnyrch bwyd lleol,
gan gynhyrchwyr lleol. Roeddent hefyd yn ennill tocynnau i gael mynediad am
ddim i Wyliau Bwyd Llangollen ar Wyddgrug.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Jones, Aelod Cabinet Arweiniol Twristiaeth: “Roeddem
wrth ein bodd o gael cyfle i hyrwyddo ein cyfoeth o atyniadau, lleoliadau a
gweithgareddau sydd ar gael yn y ddwy sir, gan ganolbwyntio ar rai or trysorau
cudd nad ywn hysbys i bawb. Cawsom gyfle i arddangos ein harfordir hefyd,
gyda thraeth bychan a gweithgareddau glan môr cysylltiol gan ddenu nifer o
ymwelwyr.
“Roedd cefn gwlad yn nodwedd fawr hefyd, gyda chloddfa fechan a wal garreg sych
yn denu sylw gan nifer o ymwelwyr y sioe.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
:Maer sioe yn ddigwyddiad pwysig yn y calendr amaethyddol ac rwyn falch fod
y cynghorau unwaith eto wedi gweithio gydau gilydd yn llwyddiannus i ddarparu
arddangosfa ardderchog a oedd yn hwyliog ac yn llawn gwybodaeth, er mwynhad y
torfeydd.
Nodyn i olygyddion: I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chyngor Sir
Ddinbych ar 01824 706222 neu Gyngor Sir y Fflint ar 01352 702110. Yn y llun
isod mae y Cynghorydd Brian Blakeley, Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych ar
Cynghorydd Glenys Diskin, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint.