Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


A dyna’r diwedd: Cynlluniau Chwarae Haf Sir y Fflint yn dod i ben wedi tymor llwyddiannus arall

Published: 21/09/2023

Mae Cynlluniau Chwarae Haf Sir y Fflint 2023 wedi bod yn llwyddiant mawr unwaith eto, gan ddarparu profiad cyffrous a chyfoethog i blant y sir. 

Croesawodd rhaglen eleni, dros 30 diwrnod mewn dros 56 o safleoedd bob diwrnod, y nifer rhyfeddol o 3,700 o blant a gofrestrodd ar gyfer haf llawn hwyl, dysgu ac antur.   

Trwy gydol y rhaglen 30 diwrnod (6 wythnos), cofnodwyd 12,000 presenoldeb, gyda 1,200 o sesiynau dyddiol. Dros yr haf, darparwyd 8,000 awr o waith chwarae er mwyn ymgysylltu ac ysbrydoli plant Sir y Fflint.  

Un agwedd o Gynlluniau Chwarae Haf Sir y Fflint eleni sydd werth rhoi sylw iddo oedd yr ymrwymiad diysgog i’r Gymraeg.  Gydag ymroddiad i hyrwyddo diwylliant a  threftadaeth Cymru, cafodd y rhaglen gyfan ei chynnal gan ddefnyddio Cymraeg achlysurol ym mhob un o safleoedd y cynllun chwarae.  

Gan gadw at ein hymrwymiad i iechyd a lles, dosbarthodd y cynlluniau chwarae dros 5,000 o boteli o ddwr a 3,000 o fariau egni er mwyn sicrhau bod pob plentyn oedd eu hangen nhw’n yfed digon ac yn cael digon o egni yn ystod anturiaethau’r haf. 

Ni fyddai llwyddiant Cynlluniau Chwarae Haf Sir y Fflint wedi bod yn bosibl heb ymroddiad ac angerdd y tîm rhyfeddol o 100 aelod staff.  Mae eu hymdrechion diflino ac ymrwymiad diysgog i blant y sir wedi gwneud rhaglen eleni yn eithriadol.  

Ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth ariannol barhaus gan Gynghorau Tref a Chymuned ar draws Sir y Fflint.   Rydym yn diolch o galon iddynt am eu cefnogaeth barhaus i ddarpariaeth sydd wedi’i sefydlu, sy’n cael ei gefnogi ac sy’n boblogaidd.   Rydym ni hefyd yn diolch i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth ariannol flynyddol er mwyn sicrhau y gallwn ni fel awdurdod ddarparu darpariaethau chwarae i holl blant Sir y Fflint. 

“Rydym ni’n falch iawn o’r tîm a’r gwaith anhygoel maent wedi’i wneud eleni.  Mae eu hymroddiad a’u hangerdd wedi disgleirio, roedd hyn i’w weld gyda’r gwenau ar wynebau’r plant a fu’n cymryd rhan,” meddai Darren Morris, Swyddog Arweiniol Datblygu Chwarae.  “Mae Cynlluniau Chwarae Haf Sir y Fflint wedi profi unwaith eto yn adnodd hanfodol i’n cymuned, gan ddarparu amgylchedd diogel a chefnogol i blant ddysgu, tyfu, a chreu atgofion oes.”

“Roedd hi’n amlwg bod gan staff ymrwymiad i gefnogi hawliau plant i ofod agored a chwarae.  Roedd hi’n galonogol gweld plant yn mwynhau eu haf ochr yn ochr â’u cyfoedion, gan fanteisio ar y cyfle i fwynhau’r awyr agored, waeth beth oedd y tywydd.” - Matt Hayes, Uwch Reolwr Gwasanaethau Ieuenctid.

“Roedd hi wir yn wych gweld sut roedd y Gymraeg yn cael ei hintegreiddio’n esmwyth mewn i’r darpariaethau haf yma, gan bontio’r bwlch rhwng dysgu yn yr ystafell ddosbarth ac ymgysylltu â’r gymuned heb amharu ar hawliau’r plentyn i chwarae.  Mae pob cyfle mae plant yn ei gael i ddefnyddio eu Cymraeg yn ystod gwyliau’r ysgol yn hanfodol ar gyfer ei llwyddiant parhaus yma yn Sir y Fflint.” - Claire Homard, Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid.

Wrth i dymor haf llwyddiannus arall ddod i ben, mae tîm Cynlluniau Chwarae Haf Sir y Fflint yn edrych ymlaen at barhau â’u cenhadaeth o gyfoethogi bywydau plant Sir y Fflint dros y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod. 

Ynglyn â Chynlluniau Chwarae Haf Sir y Fflint: 

Mae Cynlluniau Chwarae Haf Sir y Fflint yn fenter sirol sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru a Chynghorau Tref a Chymuned ar draws Sir y Fflint, wedi’u hanelu at ddarparu profiadau chwarae sy’n eu cyfoethogi ac yn llawn hwyl dros yr haf.  Gan ganolbwyntio ar hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymreig, lles, iechyd, mynediad at chwarae diogel, mae’r rhaglen yn cynnig ystod eang o weithgareddau a chyfleoedd i blant ddysgu a thyfu mewn amgylchedd diogel a chefnogol.