Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Maes parcio Neuadd y Sir ar gau ar gyfer cyfarfod cynllunio

Published: 22/09/2023

Bydd maes parcio’r Brif Fynedfa y tu allan i Neuadd y Sir yr Wyddgrug ar gau ddydd Mercher 27 Medi oherwydd bod cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio yn cael ei gynnal.

Bydd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir y Fflint yn cyfarfod i drafod cais am gael defnyddio gwesty a llety modiwlar fel llety a hostel gefnogi i Geiswyr Lloches yng Ngwesty Gwledig Northop Hall.

Bydd nifer o drefniadau eraill ar gael i’r cyhoedd ar y diwrnod.

Bydd Neuadd y Sir ar gau ar gyfer pob math o fusnes heblaw cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 27 Medi.

Bydd maes parcio’r Brif Fynedfa o flaen yr adeilad ar gau a bydd pob cerbyd yn cael eu cyfeirio at y maes parcio aml lawr. Ni chodir ffioedd am y diwrnod hwnnw.  Bydd mannau parcio i’r anabl gyferbyn â’r prif adeilad ac wedi eu nodi’n glir.  Dilynwch yr arwyddion.

Anogir aelodau’r cyhoedd i wylio’r cyfarfod ar-lein, ble bydd yn cael ei ffrydio’n fyw.  Mae ychydig o seddi ar gael yn Siambr y Cyngor a’r cyntaf i’r felin fydd hi.  Bydd seddi ychwanegol ar gael yn Ystafell Alun a Glannau Dyfrdwy ble bydd y cyfarfod yn cael ei ffrydio’n fyw.

Dim ond y rhai sydd wedi cofrestru i roi sylwadau fydd yn cael siarad yn y cyfarfod.

Ni chaniateir ffilmio na thynnu lluniau yn Siambr y Cyngor ar unrhyw gyfri.

Dywedodd Andrew Farrow, Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi): “Bydd nifer o drefniadau eraill ar waith yn Neuadd y Sir ddydd Mercher i sicrhau bod cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio yn cael ei gynnal yn ddiogel ac effeithlon.

“Gwyddom fod llawer o ddiddordeb cyhoeddus yn y cais cynllunio hwn a byddwn yn ceisio gwneud lle i gymaint o aelodau’r cyhoedd â phosibl ar y safle, ond rwyf yn annog yn gryf i bobl wylio’r cyfarfod ar-lein gan nad oes llawer o le yn yr adeilad.

“Os ydych yn mynychu, dyrennir y seddi ar sail y cyntaf i’r felin. Dewch mewn da bryd i gael sedd gan y bydd y cyfarfod yn dechrau’n brydlon am 1pm.”

Bydd y cyfarfod yn cael ei ffrydio’n fyw ar wefan Cyngor Sir y Fflint a bydd recordiad o’r cyfarfod yn cael ei lwytho ar wefan y Cyngor yn fuan wedyn.