Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymdrech anferth yn cael gwared ar Blastig Anferth Morol o Arfordir Sir y Fflint/Gogledd Ddwyrain Cymru

Published: 06/10/2023

Roedd Ceidwaid Arfordirol o Gyngor Sir y Fflint wedi ymuno â gwirfoddolwyr corfforaethol Vimto i glirio un o’r darnau mwyaf o blastig o draeth Talacre.

Wedi’i alw y “Plastig Anferth”, mae’r bibell blastig anferth 6m x 1m o drwch o darddiad anhysbys wedi gorwedd fel morfil anferth ar y traeth ar y safle Gwarchodedig ers dros 30 o flynyddoedd.  Oherwydd amodau’r llanw ac anawsterau cael peiriannau i’r safle, mae wedi gwneud cadwriaethwyr a Cheidwaid yn rhwystredig ers degawdau. 

Yn ystod y cyfnod hwn er ei fod wedi goleuo yn yr haul, mae’n gorwedd heb newid lawer hyd yn oed ar ôl yr holl amser.  Mae’r bibell wedi’i naddu gan ychwanegu micro-blastigau i Arfordir Afon Dyfrdwy. 

Digon oedd digon a phan ofynnodd Vimto i Sir y Fflint am ddiwrnod corfforaethol i roi rhywbeth yn ôl. Daeth y cyfle perffaith i Geidwaid Arfordirol fynd i’r afael á’r anghenfil ar y traeth.

Bu pymtheg o wirfoddolwyr a Chedwaid yn gweithio’n galed i glirio’r cerrig mân o’r tu mewn i’r bibell mewn amodau mwdlyd. Yna, gwnaethant dorri coler metel trwm oedd yn rhoi pwysau ar y bibell, cysylltwyd rhaff a llusgo’r bibell dros 300m i fyny’r traeth graean bras i aros am dryciau a threlars Ceidwaid Arfordirol. 

Gyda chefnogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n berchen ar y rhan hon o’r arfordir, mae’r prosiect wedi’i ystyried yn llwyddiant mawr ac yn fuddsoddiad i ofalu am y rhan arbennig hon o Arfordir Cymru yn y dyfodol. 

Dywedodd Matt Nichols, Cyfarwyddwr Masnachol, Vimto International: "Cawsom ddiwrnod gwych gyda’r Ceidwaid yn gwneud gwaith rheoli’r prysgoed yn y twyni i ddechrau yna mynd i’r afael â’r anghenfil plastig hwn yn y prynhawn. Nid oedd yn hawdd ond daeth y tîm at ei gilydd a llwyddo i wneud y gwaith. Hoffem ddiolch i dîm Sir y Fflint, Cyfoeth Naturiol Cymru, ENi a phawb arall sydd wedi helpu i gael y bibell hon oddi ar y traeth ac i’r byd ailgylchu o’n hamgylchedd naturiol."

Dywedodd y Cyng. Dave Healey, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi: "Dyma ganlyniad gwych ar gyfer ein hamgylchedd arfordirol ac mae’n dangos ein hymroddiad fel awdurdod lleol i’r Afon Dyfrdwy, Arfordir Cymru a’n diwydiant twristiaeth. Mae ein tîm Gwasanaethau Stryd yn clirio traeth Talacre drwy gydol tymor yr haf, fodd bynnag nid oedd y Plastig Anferthol hwn yn gallu mynd i mewn i fag bin mawr.

"Mae’n siwr mai dyma brosiect mawr cyntaf ein prosiect Parc Arfordir Sir y Fflint, byddwn yn gweld mwy o’r math hyn o waith dros y blynyddoedd nesaf ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Da iawn bawb."

Bydd y bibell yn cael ei chludo yn ôl i safle’r ceidwaid ym Mharc Wepre ac naill ai’n cael ei defnyddio ar gyfer prosiectau mynediad neu’n cael ei hailgylchu yn systemau rheoli gwastraff Sir y Fflint.