Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Wedi lansio ymchwiliad i lifogydd yn Sir y Fflint ar ôl Storm Babet

Published: 01/11/2023

Disgwylir i waith trwsio priffyrdd a systemau draenio yn Sir y Fflint i gymryd misoedd ar ôl Storm Babet.

Roedd y sir wedi dioddef o lifogydd difrifol ar ddydd Gwener, 20 Hydref gyda chyfanswm enfawr o ddwr yn gorlethu isadeiledd Sir y Fflint ac yn achosi difrod torcalonnus i gartrefi pobl.

Cafodd gweithrediadau priffyrdd a gwasanaethau stryd eu gohirio dros dro er mwyn helpu gyda’r gwaith ymateb ac fe weithiodd staff trwy gydol y penwythnos i glirio dwr oedd yn sefyll, cael gwared ar falurion ac i gefnogi preswylwyr.

Yn ystod y cyfnod roedd mwy na 20 o ffyrdd wedi cael eu cau dros dro, gyda mwy na 1,650 o fagiau tywod yn cael eu dosbarthu i’r rheiny oedd eu hangen, 183 o asedau wedi’u clirio/glanhau a sawl ffos a chwrs dwr wedi’u clirio.

Roedd canolfan orffwyso yn Neuadd y Sir, yr Wyddgrug i gefnogi’r rheiny oedd wedi gorfod gadael eu cartrefi ac roedd swyddogion y Cyngor wedi trefnu gwesty i 8 o unigolion dros y penwythnos.

Efallai bod preswylwyr sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi oherwydd difrod llifogydd yn gymwys am eithriad Treth y Cyngor. Mae eithriadau ar gael ar gyfer hyd at 6 neu 12 mis yn dibynnu ar ba mor ddifrifol yw’r difrod a natur y gwaith sydd angen ei wneud. 

Yn ystod y cyfnod hwn bydd cartrefi yn gymwys os ydyn nhw’n cwrdd â’r amodau canlynol:

  • Eu bod wedi gorfod gadael eu heiddo oherwydd y llifogydd; ac
  • Mae niwed sylweddol wedi cael ei achosi i’w heiddo yn fewnol ac mae angen gwneud gwaith arno cyn y gellir byw ynddo eto.

Mae gwasanaeth Treth y Cyngor ar gael i roi cyngor a chefnogaeth i aelwydydd sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd ac os oes gennych unrhyw gwestiynau ar sut y gall hyn effeithio eich taliadau treth y cyngor.  Am arweiniad pellach cysylltwch â’r Tîm Treth y Cyngor ar 01352 704848 Dewis 1, neu anfonwch e-bost at local.taxation@flintshire.gov.uk

Meddai’r Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant: “Dwi’n falch iawn o ymdrechion y rheiny ddaeth at eu gilydd i ymateb i Storm Babet. Dyma un o’r digwyddiadau llifogydd mwyaf sylweddol yn Sir y Fflint am lawer o flynyddoedd ac er gwaethaf y cyfanswm o law wnaeth ddisgyn mewn cyfnod mor fyr fe weithiodd y swyddogion yn gyflym i wneud yn siwr fod priffyrdd yn ddiogel a bod preswylwyr yn cael eu cefnogi.”

Mae ymchwiliad i’r llifogydd yn cael ei wneud ar hyn o bryd ac yn cael ei arwain gan ymgynghorwyr annibynnol arbenigol, Waterco. Bydd meysydd allweddol sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd yn derbyn llythyr yn gofyn i breswylwyr roi cyn gymaint o wybodaeth ac sy’n bosib ar effaith y llifogydd arnyn nhw.

Dyma ran hanfodol o’r asesiad a bydd yn helpu gyda’r ymchwiliad a fydd hefyd yn cynnwys cynrychiolaeth gan fudd-ddeiliaid allweddol gan gynnwys Dwr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.  Yna bydd yr adroddiad yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru i geisio cael cyllid am gynlluniau i wella amddiffyniad rhag llifogydd yn Sir y Fflint.