Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod arddangos opsiynau rheoli chwyn heb ddefnyddio chwynladdwyr cemegol

Published: 06/11/2023

Mae’r chwynladdwr cemegol ‘Glyphosate’  yn cael  effeithiau negyddol ar yr amgylchedd ac mae rhai gwledydd eisoes wedi cymryd camau i wahardd ei ddefnydd.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cymryd camau i leihau’r defnydd o chwynladdwyr cemegol ar draws ei ystâd ac eisoes wedi buddsoddi yn y system ‘Foamstream’, sy’n rhydd o gemegau ac yn defnyddio gwres a starts planhigion i ladd chwyn. Mae Cyngor Sir yn Fflint yn awr yn chwilio am gynnyrch amgen  a mesurau rheoli chwyn ychwanegol.

Fel rhan o’r ymgyrch i leihau’r defnydd o chwynladdwyr, mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal diwrnod arddangos i amlygu opsiynau rheoli chwyn y gellir eu defnyddio yn lle ‘Glyphosate’.

Bydd diwrnod arddangos Sir y Fflint ar agor i unrhyw un sy’n defnyddio sylweddau rheoli chwyn a bydd yn galluogi cyflenwyr i arddangos offer a dulliau o reoli chwyn heb gemegau ac yn rhoi cyfle i’r rhai sy’n bresennol ofyn cwestiynau a gweld systemau rheoli chwyn amgen ar waith.

Os ydych yn ymwneud â rheoli chwyn ac yn awyddus i archwilio dulliau heb gemegau a dysgu mwy am ein diwrnod arddangos neu os ydych eisiau mynegi diddordeb mewn mynychu, cysylltwch â biodiversity@flintshire.gov.uk.

Meddai’r Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi, Cynghorydd David Healey: "Mae Glyphosate yn lladd pob planhigyn y mae mewn cyswllt ag o;  mae o hefyd yn treiddio i’n cyrsiau dwr ac yn effeithio ar ein bywyd gwyllt brodorol. Mae’n bwysig ein bod yn cymryd camau i symud i ffwrdd oddi wrth y dull hwn o reoli chwyn os oes dewisiadau amgen ar gael.  

Picture1.jpg

Llun o staff gwasanaethau stryd Sir y Fflint yn defnyddio’r system Foamstream mewn ardal drefol sy’n cael ei pharatoi ar gyfer plannu hadau blodau gwyllt.