Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn cyflwyno Rhybudd Cosb Benodedig ar gyfer tipio anghyfreithlon

Published: 08/11/2023

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyflwyno Rhybudd Cosb Benodedig o £300 yn ddiweddar dan Adran 33 Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 i unigolyn a oedd wedi diystyru eu dyletswydd gofal ac wedi taflu matres mewn stryd gefn ger eu heiddo yn ardal Cei Connah. Cynhaliwyd yr ymchwiliad llwyddiannus yma gan Swyddogion Gorfodi y Cyngor ar ôl derbyn fideo teledu cylch caeëdig oedd yn dangos hyn yn digwydd.  

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a’r Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Dave Hughes:

“Dyma ganlyniad ardderchog arall i’r Cyngor mewn ardal lle mae eitemau gwastraff aelwydydd yn parhau i gael eu gadael ar y stryd heb unrhyw ystyriaeth i’r gymuned leol na’r amgylchedd.  

Nid yw tipio anghyfreithlon byth yn dderbyniol, ac mae’n weithgarwch troseddol a all achosi llygredd difrifol i’r amgylchedd, gall fod yn berygl i iechyd dynol a niweidio bywyd gwyllt ac anifeiliaid fferm, yn ogystal â dargyfeirio timau hanfodol i ffwrdd o reng flaen casgliadau gwastraff.”

Rydym yn annog preswylwyr i waredu eu heitemau gwastraff yn gywir gan ddefnyddio’r gwasanaeth casgliadau ailgylchu a gwastraff stepen drws, neu drwy un o bum canolfan ailgylchu. Pan mae gan breswylydd swmp o ailgylchu a gwastraff i waredu, yna rydym yn argymell defnyddio gwasanaethau cwmni llogi sgip cymeradwy neu gontractwr gwaredu gwastraff. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor.