Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Buddsoddiadau hirdymor wedi’u nodi yn Rhaglen Gyfalaf Sir y Fflint

Published: 15/11/2023

Gofynnir i gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2024/25 – 2026/27.

Mae’r rhaglen arfaethedig yn cynnwys amrywiaeth eang o fuddsoddiadau hirdymor fel darparu ysgol cyfrwng Cymraeg newydd â chyfleusterau gofal plant integredig, cartref gofal newydd a fydd yn cynyddu nifer y gwelyau ac yn creu gwytnwch gwasanaeth, a chanolfan anableddau dysgu integredig, yn ogystal â chyllid isadeiledd i gefnogi cynnal a chadw ysgolion a'r rhwydwaith priffyrdd ledled y Sir.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson, Aelod Cabinet Cyllid, Cynhwysiant a Chymunedau Cadarn yn cynnwys Gwerth Cymdeithasol a Chaffael: “Er bod y rhaglen yn parhau i fod yn uchelgeisiol, mae wedi’i hystyried yn ofalus i wneud yn fawr o’r cyllid cyfalaf allanol y mae’r Cyngor yn ei gael a lleihau ei ofynion benthyca ar yr un pryd. Mae tri chynllun yn y rhaglen yn cael eu cefnogi gan Grant gwerth £28m gan Lywodraeth Cymru.”

Mae’r rhaglen arfaethedig hefyd yn cynnwys rhaglen Re:Fit a datblygu darpariaeth gofal preswyl i blant, y gofynnir i aelodau eu cefnogi.

Bydd y Fframwaith Re:Fit yn galluogi’r Cyngor i gyflymu strategaeth Newid Hinsawdd y Cyngor y cafodd ei mabwysiadu ym mis Chwefror 2022 drwy ôl-osod adeiladau ac asedau â mesurau a fydd yn lleihau’r defnydd o ynni, lleihau costau a charbon, a bydd yn cael ei hariannu ar sail gwario i arbed.

Mae’r angen i ddatblygu gofal preswyl i blant yn Sir y Fflint yn cael ei arwain gan ddeddfwriaeth ac angen. Bydd y ddarpariaeth newydd yn sicrhau bod digon o leoliadau diogel, cefnogol ac o ansawdd uchel i blant sy'n derbyn gofal. Bydd lleoli plant mewn ardal leol yn hytrach nag y tu allan i'r sir yn caniatáu iddyn nhw gynnal cysylltiadau â theulu, ffrindiau, a'u rhwydweithiau cymorth.

Bydd y cyfleuster archif ar y cyd arfaethedig ar gyfer Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Sir Ddinbych wedi’i leoli yn Sir y Fflint a bydd yn disodli’r cyfleusterau presennol nad ydynt yn addas sydd wedi’u lleoli mewn sawl adeilad ar draws y ddau Gyngor.  Bydd cyfleuster modern newydd yn sicrhau bod y gwasanaeth yn cadw ei achrediad, bydd y prosiect yn cael ei ariannu trwy grant allanol ac yn cael cyfraniadau ariannol gan y ddau Gyngor a fydd yn gweithredu'r cyfleuster newydd dan gytundeb gwasanaethau ar y cyd.

Bydd y rhaglen yn cael ei hadolygu yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 16 Tachwedd cyn ei chyflwyno i’r Cabinet ar 21 Tachwedd.