Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn croesawu’r gefnogaeth ar gyfer Parth Buddsoddi £80 miliwn

Published: 16/11/2023

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi croesawu’r newyddion fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r cynlluniau i greu Parth Buddsoddi £80 miliwn yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Rhannodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething y newyddion yn y Senedd yn dilyn yr ymgyrch yn Wrecsam a Sir y Fflint a ddenodd gefnogaeth drawsbleidiol.

Mae’n rhan o gynllun Llywodraeth DU i greu 12 Parth Buddsoddi ar draws y wlad.  Credir y bydd yn denu £1.7 biliwn o fuddsoddiad pellach yn yr ardal ac yn helpu i greu miloedd o swyddi newydd. 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Fe all fod yn benderfyniad nodedig a fydd yn sicrhau buddsoddiad o £80 miliwn i Sir y Fflint a Wrecsam dros y pedair blynedd nesaf.  Gobeithiaf y bydd yn helpu i gryfhau ein diwydiannau allweddol, yn ogystal â chyflwyno a datblygu rhai newydd. 

“Rwy’n falch iawn o’r ffordd y mae busnesau a gwleidyddion wedi gweithio gyda’i gilydd i gyrraedd y cam hwn.  Hoffem ddiolch i bawb am eu cyfraniadau ac am gyflwyno achos mor gryf ar gyfer Parth Buddsoddi yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.”

Mae’r grwp yn cynnwys Moneypenny, JCB, Airbus, Net World Sports, Theatr Clwyd, Cyngor Busnes Gogledd Cymru, Cynghorau Wrecsam a Sir y Fflint, Prifysgol Wrecsam ac AMRC Cymru, ac yn cael ei gadeirio gan Joanna Swash a Phrif Swyddog Gweithredol Grwp Moneypenny.

Bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu ar y gefnogaeth y bydd yn ei darparu i barthau buddsoddi yng Nghymru cyn neu fel rhan o broses Datganiad yr Hydref.