Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn nodi Diwrnod Rhuban Gwyn

Published: 24/11/2023

Mae Cyngor Sir y Fflint unwaith eto wedi dangos ei gefnogaeth i Ymgyrch y Rhuban Gwyn i roi diwedd ar drais yn erbyn merched.

Nodir Diwrnod y Rhuban Gwyn ledled y byd, a dyma’r fenter fyd-eang fwyaf i roi diwedd ar drais dynion yn erbyn merched drwy alw ar ddynion i gymryd camau i wneud gwahaniaeth.White Ribbon.jpg

Mae aelodau a swyddogion Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gwisgo rhubanau gwyn i godi ymwybyddiaeth am yr ymgyrch ac fe ddaethon nhw ynghyd yn Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug i godi baner mewn cefnogaeth. Drwy wisgo rhuban gwyn rydych yn gwneud addewid na wnewch chi byth gyflawni, esgusodi na chadw’n dawel am drais dynion yn erbyn merched.

Dywedodd yr Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Chris Bithell: "Mae'r Cenhedloedd Unedig yn cydnabod 25 Tachwedd yn swyddogol fel Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Merched. Mae'r Rhuban Gwyn yn symbol o obaith am fyd lle gall merched a genethod fyw heb ofni trais. Mae gwisgo rhuban gwyn yn ffordd wych i ddangos cefnogaeth i’r ymgyrch hwn.

"Mae Sir y Fflint wedi bod yn cefnogi’r achos yn frwd ers blynyddoedd lawer, ac wedi cael canmoliaeth gan Ymgyrch y Rhuban Gwyn am y gwaith a wnawn. Mae’n bwysig ein bod ni fel sefydliad yn helpu i godi ymwybyddiaeth drwy ddangos ein hymrwymiad a chefnogi gweithgareddau yn ystod yr adeg bwysig hon o’r flwyddyn."

I gael rhagor o fanylion am yr ymgyrch, neu i ddangos eich cefnogaeth, ewch i: www.whiteribboncampaign.co.uk

Os ydych chi wedi dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol, ffoniwch Linell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800.