Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


RHYWOGAETH ORESGYNNOL YN CWRDD Â’I MEISTR

Published: 30/11/2023

 Drwy gydol 2023 mae Tîm Ceidwaid Arfordirol Sir y Fflint wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i gwblhau tasg gadwraeth anferth ar dwyni tywod Talacre.

Mae gan y tîm hanes hir o weithio mewn partneriaeth lwyddiannus, ac maen nhw wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â’r tirfeddianwyr, ENI a Bourne Leisure, ers ugain mlynedd a mwy ym mhrif gyrchfan twristiaeth Sir y Fflint.

Yn ystod y blynyddoedd diweddar mae’r bartneriaeth wedi canolbwyntio ar daclo’r rhywogaethau goresgynnol yn y twyni, gyda barf yr hen wr (clematis vitalba) yn broblem yno. O’r diwedd, mae’r planhigyn cyffredin hwn sy’n taflu cysgod ac yn trechu rhywogaethau brodorol yn dechrau cwrdd â’i feistr – gyda phob clwstwr yn y twyni 50 hectar yn cael ei drin gan y tîm.

Yn ystod yr wyth mlynedd ddiwethaf mae Ceidwaid Arfordirol Sir y Fflint wedi bod yn gweithio’n galed i leihau gafael y planhigyn hwn ar y system dwyni, ac o’r diwedd, am y tro cyntaf, gallwn ddweud bod pob clwstwr o farf yr hen wr wedi’i drin.

Mae’r tîm wedi gweithio’n systematig, o’r gorllewin i’r dwyrain, drwy’r twyni gan dargedu barf yr hen wr flwyddyn ar ôl blwyddyn – mae’n broses faith gan fod clystyrau newydd yn tyfu a’r driniaeth ddim bob tro’n llwyddiannus.

Mae amrywiaeth o ddulliau wedi’u defnyddio i geisio mynd i’r afael â’r planhigyn yma, gyda’r Ceidwaid yn arwain grwpiau o fyfyrwyr coleg sy’n cael eu hel ynghyd i helpu i dorri a thynnu’r clystyrau mwyaf yn ystod yr ychydig flynyddoedd cyntaf. Ar ôl sefydlu clystyrau prawf yn 2017, y ffordd fwyaf llwyddiannus o waredu’r planhigyn oedd defnyddio chwynladdwr, a oedd yn cael ei roi ar ardaloedd penodol bach a oedd yn caniatáu i’r timau ladd y planhigyn heb ddifrodi gweddill y system dwyni.

Meddai’r Cyng. Dave Healey, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi: “Mae’r gwaith hyd yma wedi bod yn anhygoel, y system dwyni yw’r unig un yn Sir y Fflint felly mae’n bwysig ein bod ni’n ei gwarchod. Bydd y tîm cefn gwlad yn parhau â’r gwaith i wneud yn siwr bod unrhyw glwstwr sydd heb farw yn cael ail driniaeth ac i gadw golwg am glystyrau newydd.

Mae’n rhaid diolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri sydd wedi cyfrannu at y dasg hon drwy dalu am amser contractwr yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, drwy ein prosiect Partneriaeth Dalgylch Llanw Afon Dyfrdwy sydd wedi’i ddylunio i ysbrydoli cymunedau arfordirol yn Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Chilgwri i ddysgu mwy am dreftadaeth naturiol Aber Afon Dyfrdwy.”

Mae’r gwaith yma’n hanfodol i warchod a gwella arfordir Sir y Fflint, a bydd ein Ceidwaid ymroddgar yn parhau â’u gwaith i ddatblygu Parc Arfordirol Sir y Fflint ac i gynnal a chadw Llwybr Arfordir Cymru.