Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgynghoriad yn mynd rhagddo i helpu i leihau gwastraff a gwella ailgylchu

Published: 01/12/2023

Gwahoddir trigolion i ddweud eu dweud ar gynlluniau newydd ar gyfer lleihau gwastraff a gwella cyfraddau ailgylchu yn Sir y Fflint.

Yn lansio ddydd Gwener, 1 Rhagfyr, gwahoddir trigolion a chymunedau lleol i ddweud eu dweud ar strategaeth ddrafft newydd y Cyngor ar Adnoddau a Gwastraff, sydd â’r nod o weld mwy o’n gwastraff cartref yn cael ei leihau, ei ailddefnyddio a’i ailgylchu.

Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir y Fflint mewn perygl o gael dirwy o fwy na £1.1 miliwn am fethu â chyrraedd targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru yn 2021/22 a 2022/23, yn ogystal â dirwyon mawr pellach posibl yn 2023/24 a thu hwnt. 

Os caiff ei mabwysiadu, nod y strategaeth yw gwella cyfraddau ailgylchu yn Sir y Fflint o 61% i 70%, a chyflawni uchelgeisiau’r Cyngor o ddod yn ddi-garbon net erbyn 2030.

Bydd angen ymdrech ar y cyd gan drigolion, ein gweithlu, busnesau a’r gymuned ehangach i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd.  Mae'r strategaeth yn nodi ein bwriad o gefnogi pobl sy'n byw ac yn gweithio yn Sir y Fflint, drwy ei gwneud yn haws iddynt leihau eu hôl troed carbon.

Rydym yn gofyn i drigolion roi eu barn ar y strategaeth ddrafft rhwng 1 Rhagfyr a 12 Ionawr.

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd nifer o ddigwyddiadau gwybodaeth cymunedol ar draws y sir i roi cyfle i bobl ddysgu mwy a thrafod y cynlluniau gyda'r Cyngor. Cliciwch yma i weld lle mae’r digwyddiad agosaf atoch chi.

Meddai’r Cynghorydd Dave Hughes, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a’r Strategaeth Cludiant Rhanbarthol: “Mae hon yn strategaeth bwysig a fydd yn dylanwadu ar ddyfodol rheoli adnoddau a gwastraff yn Sir y Fflint. Mae’n nodi sut yr ydym yn bwriadu cyrraedd y targedau a bennir ar ein cyfer gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal â mynd i’r afael â phwysau sylweddol newid yn yr hinsawdd.

“Rydym eisiau clywed gan gynifer o drigolion â phosibl i’n helpu i lunio fersiwn derfynol y strategaeth. Byddwn yn annog pawb i gymryd rhan a rhoi eu barn ar y mater hynod bwysig hwn.”

Bydd copïau o'r strategaeth ddrafft a holiadur yr ymgynghoriad ar gael yn y Canolfannau Cyswllt a'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref drwy gydol y cyfnod ymgynghori. Mae copi o’r strategaeth ddrafft ar-lein yma. I lenwi’r holiadur byr, cliciwch yma. 

Gellir anfon unrhyw gopïau papur wedi’u cwblhau dros e-bost at Streetsceneadmin@flintshire.gov.uk

Neu fel arall, eu postio i: Cyngor Sir y Fflint, Gwasanaethau Stryd a Chludiant, Depo Alltami, Ffordd yr Wyddgrug, Alltami, Sir y Fflint, CH7 6LG.

Rhaid cael ymatebion erbyn 12 Ionawr, 2024 fan bellaf.