Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynigion i wneud cofebion Sir y Fflint yn ddiogel

Published: 07/12/2023

Gwelwyd bod cannoedd o gerrig beddi a chofebion ar draws Sir y Fflint yn anniogel a bod angen gwelliannau diogelwch arnynt.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gyfrifol am tua 20,000 o gerrig beddi neu gofebion o amrywiaeth o siapiau a meintiau ac mae dyletswydd arno i gynnal a chadw ei dir claddu mewn cyflwr da a diogel.

Fodd bynnag, oherwydd diffyg cofnodion a/neu aelodau’r teulu sy’n fyw, mae tua 700 o gofebion ym mynwentydd Sir y Fflint bellach y bernir eu bod yn anniogel.

Yn ogystal â chofebion anniogel, mae ymylfeini sy’n amgylchynu perimedr rhai beddau hefyd yn dadfeilio, ac mae perygl i rhywun faglu drostynt.

Caiff pob carreg fedd eu profi unwaith bob 3 blynedd er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel a sefydlog. Caiff cofebion a cherrig beddi sy’n rhydd neu’n ansefydlog ac sy’n peri perygl o anaf i ymwelwyr neu weithwyr, eu cynnal dros dro gan bolion pren. Cysylltir â pherchnogion y beddau, os ydynt yn hysbys, a gofynnir iddynt drwsio’r bedd.

Fodd bynnag, mae angen datrysiad mwy parhaol bellach oherwydd bod nifer gynyddol o gofebion y bernir eu bod yn anniogel ac oherwydd y costau sy’n gysylltiedig â mesurau adferol dros dro.

Gofynnir i Gynghorwyr gymeradwyo dull amgen a pharhaol o sicrhau bod y cofebion yn ddiogel os na chânt eu trwsio gan berchennog cofrestredig y bedd, yn ogystal â sicrhau bod ymylfeini peryglus yn ddiogel.

Y dewis a ffefrir yw mabwysiadu’r dull ‘palu’ er mwyn sefydlogi'r cofebion. Yn ystod y broses hon, caiff cofeb ei symud o’i lleoliad ar ben y bedd, caiff twll tua 18 modfedd o ddyfnder ei balu, a chaiff rhan o’r garreg fedd ei chladdu yn y twll. Yna caiff y twll ei lenwi â phridd, i sicrhau bod y gofeb yn sefydlog eto. Mae’r dull hwn yn caniatáu i’r rhan fwyaf o’r arysgrifau ar y garreg fedd, os nad y cyfan, i fod yn weladwy.

Gofynnir i Aelodau hefyd ystyried cynnig i fynd i’r afael â cherrig beddi anniogel trwy eu hailosod o fewn strwythur y bedd.

Pe na bai’r Cyngor yn mabwysiadu dull newydd, datgelodd adroddiad y byddai cynnal pob cofeb gyda pholion pren yn costio tua £5,850 bob dwy i dair blynedd.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a’r Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol: “Rydym yn sylweddoli bod hwn yn bwnc emosiynol a sensitif i deuluoedd a chaiff unrhyw waith ei wneud mewn modd parchus. Wrth i amser basio, yn anffodus bydd mwyfwy o gofebion yn dadfeilio felly mae’n rhaid i ni fabwysiadu polisi newydd sy’n caniatáu i ni gadw ein mynwentydd yn ddiogel a hygyrch i bawb.”

Bydd penderfyniad yn cael ei wneud gan y Cabinet dros yr wythnosau nesaf.