Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae achosion o Drais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol wedi cynyddu ers y pandemig

Published: 07/12/2023

Cafodd Pandemig Covid effaith sylweddol ar ddarparu gwasanaethau arbenigol yng ngogledd Cymru, gan gynnwys cefnogaeth ar gyfer dioddefwyr trais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV). Arweiniodd hyn at newidiadau sylweddol yn y modd y cafodd gwasanaethau eu darparu.

Ers codi’r cyfyngiadau, bu cynnydd sylweddol yn y galw am yr holl wasanaethau ar draws y rhanbarth, gyda gwasanaethau Sir y Fflint (gan gynnwys Eiriolwyr Annibynnol Trais Domestig, cefnogaeth yn ôl yr angen, darpariaeth allgymorth, lloches a chefnogaeth i blant a phobl ifanc), yn gweld cynnydd o rhwng 40% a 50% yn niferoedd yr atgyfeiriadau, heb unrhyw arwydd o’r tuedd hwn yn arafu.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio’n agos gyda’r sector arbenigol, i sicrhau bod modd i ddioddefwyr a goroeswyr VAWDASV gael cefnogaeth frys, tymor byr (fel llety), yn ogystal â chefnogaeth fwy hirdymor i wella ar ôl trawma.

Mae Deddf Trais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn nodi’r trefniadau ar gyfer atal trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn ogystal â diogelu dioddefwyr a darparu cefnogaeth i’r rhai yr effeithir arnynt.

Yn 2016, bu Cyngor Sir y Fflint (CSFf) a phartneriaid statudol eraill yng ngogledd Cymru yn cydweithio i sefydlu Bwrdd VAWDASV i fodloni gofynion Deddf 2015. Caiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a rhan bwysig o’r cyllid yw darparu hyfforddiant VAWDASV i staff ar draws y sefydliadau hyn, yn amrywio o raglenni ymwybyddiaeth ar-lein a hyfforddiant arbenigol i swyddogion rheng flaen, i ddealltwriaeth lefel uchel, strategol i uwch arweinwyr.

Mae 73% o weithlu Cyngor Sir y Fflint wedi cwblhau e-ddysgu VAWDASV ar gyfer y Fframwaith Hyfforddiant Cenedlaethol yn 2022/23, un o’r uchaf yng ngogledd Cymru. Mae hyfforddiant arbenigol a strategol wedi dechrau cael ei gyflwyno hefyd, gyda mwy na 330 o swyddogion CSFf eisoes wedi cael yr hyfforddiant hwn.

Meddai’r Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi, Andrew Farrow: "‘Yng Nghyngor Sir y Fflint, rydym yn deall pwysigrwydd y gwasanaethau arbenigol hyn i’n cymunedau ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn darparu’r gefnogaeth gywir i’r rhai sydd ein hangen a byddwn yn parhau i ddysgu a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnom er mwyn darparu'r gwasanaethau hyn."

Meddai’r Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd, y Cyng. Chris Bithell: "Mae’n peri pryder gweld y cynnydd o ran y galw am gefnogaeth VAWDASV yn ein cymunedau, ond rwy’n ffyddiog fod CSFf, ynghyd â’r sefydliadau statudol eraill, wedi ymrwymo i gefnogi’r bobl ddiamddiffyn hyn ym mhob ffordd bosibl."