Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwahodd preswylwyr i ddathlu treftadaeth gyfoethog y Fflint

Published: 07/12/2023

Wnaethoch chi briodi yn Neuadd Cornist? Aethoch chi i barti Nadolig yn Courtaulds? Oeddech chi’n Frenhines Bêl-droed neu Rayon?

Beth am alw heibio Llyfrgell y Fflint ddydd Sadwrn, 9 Rhagfyr a rhannu eich straeon am ddathliadau arbennig yn y Fflint, o achlysuron teuluol personol i ddigwyddiadau mawr yn y dref?Rayon Queen 1950.jpg

Mae’r digwyddiad yn rhan o ‘Off Fflint’ sy’n dathlu ein trefi, cestyll ac arfordir mewn prosiect cyffrous sy’n cynnwys pobl leol mewn cofnodi, cadw a dathlu treftadaeth gyfoethog tref y Fflint.

Hoffem weld unrhyw ffotograffau y gallwn eu sganio ar y diwrnod neu unrhyw arteffactau neu bethau cofiadwy a allai fod gennych o ddigwyddiadau.

Bydd deunydd a gesglir yn ffurfio sail i archif barhaol yn y llyfrgell i ddangos sut mae dathliadau wedi newid, neu beidio, dros y blynyddoedd.

Mae gweithdy crefftau’r Nadolig am ddim hefyd lle gallwch greu addurniadau traddodiadol gan gynnwys cadwyni papur a phlu eira.

Galwch heibio unrhyw bryd rhwng 10.30am a 12.30pm – bydd te, coffi a chacen am ddim ar gael.                                                                   

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Jo Danson, Swyddog Treftadaeth Cymunedol, ar 01352 703042 neu jo.danson@flintshire.gov.uk