Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Annog busnesau Sir y Fflint i wneud y mwyaf o gyfleoedd am gymorth

Published: 08/12/2023

Caiff busnesau lleol eu hannog i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd am gyllid a chymorth sydd ar gael trwy nifer o brosiectau a dderbyniodd gyfran o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae cymorth ariannol, yn ogystal â chyngor busnes, cynllunio busnes pwrpasol a chyfleoedd ar gyfer rhwydweithio, rhannu gwybodaeth a chydweithio ar gael i fusnesau, sy’n amrywio o gwmnïau gweithgynhyrchu mawr i fusnesau bach a chanolig, mentrau cymdeithasol, manwerthwyr canol y dref a gweithredwyr twristiaeth.

Mae sawl prosiect wedi’u cynllunio i gynorthwyo busnesau â’u strategaethau datgarboneiddio, gwella cysylltedd a thechnoleg ddigidol neu fuddsoddi mewn technoleg er mwyn gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd. Mae cymorth ar gael hefyd i helpu busnesau i arloesi a chyflwyno dulliau newydd o weithio a chynnyrch newydd.

Bydd nifer o brosiectau yn helpu cyflogwyr i nodi’r bylchau o ran sgiliau yn eu sefydliad ac argymell atebion priodol ar gyfer hyfforddiant, addysg a throsglwyddo gwybodaeth.

Mae cymorth mwy penodol ar gael i annog busnesau i fuddsoddi mewn profiadau ac isadeiledd twristiaeth a’u galluogi i archwilio marchnadoedd newydd. Cynhigir hyfforddiant a chymorth un-i-un pwrpasol ar gyfer busnesau canol y dref. Mae yna brosiect penodol ar gyfer edrych ar gryfhau’r sector garddwriaethol lleol.

Meddai’r Cynghorydd David Healey, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi: “Mae gan y prosiectau hyn y potensial i gefnogi busnesau Sir y Fflint yn fawr a’u helpu i dyfu a pharhau’n gystadleuol. Fodd bynnag, dim ond tan ddiwedd y flwyddyn nesaf y mae’r rhan fwyaf o’r prosiectau hyn ar gael, felly byddwn yn annog busnesau i fanteisio ar y cyfleoedd hyn nawr, cyn i amser, neu’r cyllid, ddod i ben.”

Mae’r prosiectau sydd wedi’u cynllunio i gefnogi busnesau Sir y Fflint yn cynnwys:

·         Cyflymu Datgarboneiddio a Chynhyrchiant drwy Dechnoleg a Sgiliau (ADAPTS)

·         Dyfodol Cynaliadwy Datgarboneiddio Sir y Fflint (FAST)

·         Cronfa Sir y Fflint

·         Academi Ddigidol Werdd Sir y Fflint

·         Cronfa Allweddol Cefnogi Sector a Thwristiaeth

·         Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru

·         Cyfleoedd Gweledigaeth Twf Gogledd Cymru

·         Garddwriaeth Cymru

·         Rhwydwaith Sgiliau ac Arloesi Gogledd Ddwyrain Cymru

·         Cynllun Taleb Sgiliau ac Arloesedd

Ceir rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael, gan gynnwys manylion cyswllt a chymhwysedd ar gyfer yr holl brosiectau uchod yma.