Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn dathlu Wythnos Hinsawdd Cymru 2023

Published: 21/12/2023

Dathlwyd Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 yr wythnos diwethaf gyda digwyddiadau wedi’u trefnu gan Gyngor Sir y Fflint. 

Roedd y digwyddiadau hyn yn rhai o nifer a gynhaliwyd ledled Cymru, wedi’u trefnu gan ystod o sefydliadau ac unigolion, oll yn dod ynghyd ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru.  Yn cael ei gynnal rhwng 4 a 8 Rhagfyr, y thema eleni ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru oedd “Sut allwn ni fynd i’r afael â newid hinsawdd mewn modd sy’n deg?”.  Mae’n gwestiwn pwysig iawn ac roedd Cyngor Sir y Fflint yn ceisio cefnogi hyn drwy ymgysylltu â’r cyhoedd yn Neuadd y Farchnad Rhuthun ar 7 Rhagfyr a Pharc Gwepra ar 8 Rhagfyr, mewn cydweithrediad â Thîm Hinsawdd Cyngor Sir Ddinbych, AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Cyfoeth Naturiol Cymru a Biogen. 

Cyfarfu aelodau’r cyhoedd gyda thimau amrywiol, gan drafod yr argyfyngau hinsawdd a natur a’r gwaith sydd ar y gweill i’w datrys.  Gan ganolbwyntio ar newid hinsawdd, bu i bobl gyfrifo eu hôl troed carbon, gan gymryd camau syml a hygyrch yn eu cartrefi (e.e. golchi dillad ar 20°C) er mwyn cyfrannu at leihau allyriadau nwyon ty gwydr. 

Cynhaliwyd ymgynghoriad “Sgyrsiau Hinsawdd” Llywodraeth Cymru hefyd lle y gallai’r cyhoedd gyflwyno eu sylwadau ar ddau gwestiwn a gyflwynwyd i gynorthwyo i ddatblygu Fframwaith Pontio Teg Llywodraeth Cymru.  Roedd y sgyrsiau’n canolbwyntio ar sut y gellir lleihau allyriadau mewn ffordd sy’n deg gan sicrhau lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddynt, a sut y gall y cyhoedd ymgysylltu â chyfleoedd i newid hinsawdd yn deg.  Roedd sawl testun dan sylw megis cludiant cyhoeddus, cefnogaeth ariannol a gwastraff, ac roedd y gweithgaredd yn llawn gwybodaeth, egni ac yn gyfle gwerthfawr i bobl leisio eu barn. Bydd y sgyrsiau hyn yn cael eu hadrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru ac yn cefnogi datblygiad camau gweithredu hinsawdd Cyngor Sir y Fflint yn y presennol a’r dyfodol.

Cynhaliwyd digwyddiad plannu coed ar 7 Rhagfyr yn fferm solar y Fflint.  Daeth staff Cyngor Sir y Fflint a gwirfoddolwyr Equans, a osododd y fferm solar, ynghyd i blannu dros 300 o goed.  Rhoddwyd cynlluniau ar waith i blannu’r coed yn dilyn Storm Arwen yn 2021 a ddifrododd y fferm solar.  Bydd y gwaith plannu yn tyfu i greu llain gysgodol, gan ddarparu diogelwch i’r fferm solar yn ystod cyfnodau o wyntoedd cryfion. Bydd y coed hyn yn darparu diogelwch rhag y gwynt, a hefyd yn chwarae rôl allweddol i leihau newid hinsawdd a chynyddu bioamrywiaeth.

Mae’r gwaith plannu hwn yn un o nifer sy’n cael ei gynnal ar draws y sir yn ystod y tymor plannu coed yn dilyn targedau a osodwyd yng Nghynllun Coed a Choetir Trefol a Strategaeth Newid Hinsawdd 2022 - 2030 Cyngor Sir y Fflint. Mae’r Cynllun Coed a Choetir Trefol yn gosod targed o gyflawni gorchudd canopi trefol o 18% erbyn 2030. Er mwyn cyflawni’r targed hwn, byddwn yn parhau i blannu coed newydd sylweddol, ar y cyd â’r gwaith o gynnal ein gorchudd canopi presennol drwy blannu coed yn lle’r rhai sy’n rhaid eu tynnu. 

 Meddai’r Cynghorydd David Healy, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Mae argyfyngau hinsawdd a natur yn her sylweddol yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.  Mae’n gyffrous gweld Cyngor Sir y Fflint yn cydweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych, Biogen a Chyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru i ymgysylltu â’r cyhoedd i ddarparu cefnogaeth, dealltwriaeth a chyfle iddynt leisio eu barn o ran sut i fynd i’r afael â newid hinsawdd mewn ffordd sy’n deg.  Mae hyn oll yn arwain at ddyfodol gwell ac edrychwn ymlaen at y digwyddiad y flwyddyn nesaf”.