Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Erfyn ar ofalwyr i ddweud eu dweud

Published: 16/02/2024

Mae gofalwyr o bob oed yn Sir y Fflint yn cael eu hannog i helpu i siapio dyfodol gwasanaethau gofalwyr yn y sir.

Mae bron i 10,000 o ofalwyr cofrestredig yn Sir y Fflint ar hyn o bryd, a llawer mwy o bobl nad ydynt yn gofrestredig sy’n rhoi gofal i’w hanwyliaid. 

I sicrhau fod ein gofalwyr di-dâl yn cael y gefnogaeth maent ei hangen ac maent yn gymwys i’w chael, mae gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint yn adolygu’r gwasanaethau sydd ar gael ac yn cynllunio ar gyfer y dyfodol.

Fel rhan o’r gwaith hwn, mae gofalwyr o bob oed yn cael eu gwahodd i gwblhau holiadur byr. Bydd yr atebion yn cael eu defnyddio i gynllunio a darparu gwasanaethau sy’n bodloni anghenion gofalwyr yn awr ac yn y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles:  “Rydym yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r gwaith mae ein gofalwyr di-dâl yn ei wneud yn Sir y Fflint i gefnogi eu hanwyliaid, yn aml yn blaenoriaethu eu gwaith gofalu dros eu hanghenion eu hunain.

“Mae gofalwyr di-dâl angen, ac maent yn gymwys i gael cefnogaeth, felly mae’n hanfodol fod ein gofalwyr di-dâl yn cael lleisio eu barn ac yn cyflwyno eu safbwyntiau i ni ar beth fyddai’n gwneud gwahaniaeth iddynt o ran y gwasanaethau a gynigiwn. 

“Rydym yn credu fod cynnwys ein gofalwyr di-dâl mewn cynllun a gyd-gynhyrchwyd yn llawn ar gyfer ein gwasanaethau yn sicrhau fod y gefnogaeth briodol ar gael ar yr adeg gywir. Diolch am gymryd yr amser i ymateb i’r arolwg a rhoi eich safbwyntiau i ni.”

Mae ystod eang o wasanaethau ar gael gennym ni a’n sefydliadau partner a gomisiynwyd, i gael mwy o wybodaeth am y gwasanaethau hyn, ewch i:

https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Social-Services/Help-for-Carers-Welsh.aspx

Mae’r holiadur yn cau ar 26 Chwefror. I sicrhau ein bod yn cael adborth gan ystod eang o ofalwyr, mae 3 arolwg wedi eu hanelu at wahanol grwpiau oedran.

Holiadur gofalwyr syn oedolion.

Holiadur gofalwyr ifanc - o dan 11.

Holiadur gofalwyr ifanc - dros 11.