Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwahodd busnesau Sir y Fflint i wneud cais am gefnogaeth wedi’i theilwra ar eu cyfer

Published: 06/03/2024

Mae pedair ar ddeg o fasnachwyr Sir y Fflint wedi cael budd o gefnogaeth fusnes, bwrpasol diolch i brosiect peilot llwyddiannus gan y tîm Adfywio Cymunedol. 

Lansiwyd Achub y Stryd Fawr ym mis Tachwedd y llynedd gyda chyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ac anelwyd i wella canol trefi Sir y Fflint drwy helpu busnesau lleol. 

Mae’r peilot cychwynnol wedi bod yn gymaint o lwyddiant, mae’r prosiect wedi’i ymestyn ac mae’r Tîm Adfywio nawr yn edrych am 15 o fusnesau eraill i dderbyn cefnogaeth o fis Ebrill ymlaen. 

Mae’r cynllun yn cael ei ddarparu gan SaveTheHighstreet.org - symudiad a lansiwyd yn 2016 gyda gweledigaeth newydd gyffrous ar gyfer y stryd fawr ac mae wedi’i dargedu at Yr Wyddgrug, Bwcle, Y Fflint, Treffynnon, Cei Connah, Shotton a Queensferry. 

Dywedodd y Cynghorydd David Healey, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi:  “Byddwn yn annog unrhyw fusnesau lleol i ymgeisio a chanfod pa gefnogaeth a allai fod o fudd posibl iddyn nhw.    Roedd busnesau yn y peilot wedi derbyn ystod o gefnogaeth, gan gynnwys datblygu gwefan, cyngor ariannol a marchnata i ddenu mwy o ymwelwyr. 

“Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i helpu busnesau i ffynnu ac yn ei dro cefnogi’r stryd fawr leol.   Mae’r tîm Adfywio yn cynnal sawl cynllun ar hyn o bryd o dan raglen Buddsoddi Canol Tref, pa un a ydych yn chwilio am gymorth busnes, gwella eiddo neu grantiau i gynnal gweithgareddau i gynyddu bywiogrwydd yng nghanol y dref.”

Mae hyfforddwr wedi’i neilltuo ar gyfer pob busnes sy’n cymryd rhan yn y prosiect Achub y Stryd Fawr sy’n cynnal gwiriad iechyd llawn ac yn nodi ardaloedd a fyddai’n gallu cael eu gwella neu eu datblygu. 

Mae Peridot Academy yn Shotton yn un o’r busnesau wnaeth gymryd rhan yn y peilot. 

Dywedodd Donna Oldfield-Sterry, y perchennog:  “Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gael Jo fel fy mentor.  Mae hi yn hynod gefnogol a di-feirniadol.  Rwyf eisoes wedi cael fy llygaid yn agored i pa welliannau rwyf angen eu gwneud i sicrhau llwyddiant fy musnes.   

“Rwyf eisoes wedi gallu gwneud penderfyniadau ar y cyfeiriad yr hoffwn ei gymryd gyda fy musnes ac rwyf yn edrych ymlaen at drafod y rhain yn wythnos 4 a thu hwnt.   Hoffwn ddiolch i Gyngor Sir y Fflint a’r rhaglen Garlam am y cyfle hwn ac rwy’n gyffrous i weld ble bydd hyn yn mynd.”

Ychwanegodd Anwen Baglin o Mati & Meg: “Rwy’n teimlo’n llawer mwy optimistaidd am y busnes ers i’r rhaglen ddechrau.   Mae ein cyfarfodydd wedi gwneud i mi deimlo yn fwy obeithiol am ddyfodol fy musnes.   Mae Lorna yn agos atoch chi ac yn eich annog ac yn hawdd iawn siarad gyda hi.”

Cliciwch yma i gofrestru.

Gallwch wybod mwy am y rhaglen Buddsoddi yng Nghanol y Dref yma.